Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Bydd llinellau ffôn Treth y Cyngor ac Ardrethi Busnes A llinellau Dyfarniadau ar gau 5 Rhagfyr oherwydd hyfforddiant staff.

Y cyngor yn ennill gwobr caffael gwyrdd, unwaith eto!

Wayne Welsby, Grant Thomas and Christian Ikechi Obua from the council’s Procurement and Commercial Services collecting the Best Net Zero Initiative award.

11 Tachwedd 2024

Wayne Welsby, Grant Thomas and Christian Ikechi Obua from the council’s Procurement and Commercial Services collecting the Best Net Zero Initiative award.
Mae ymdrech i dorri ôl troed carbon Cyngor Sir Powys drwy helpu ei gyflenwyr i dorri eu hôl troed hwythau, wedi ennill gwobr genedlaethol - am yr ail flwyddyn yn olynol.

Enillodd Tîm Caffael a Gwasanaethau Masnachol y cyngor gategori Menter Sero Net Gorau Gwobrau GO yr wythnos ddiwethaf, ar ôl derbyn y wobr Caffael Cynaliadwy yn yr un digwyddiad 12 mis yn ôl.

Enillwyd gwobr eleni am y gwaith o greu Porth Cynaliadwyedd Cadwyn Gyflenwi  i helpu busnesau gofal cymdeithasol dorri eu hallyriadau carbon a gwella gwybodaeth carbon eu rheolwyr.

Mae'r porth yn gofyn cwestiynau i asesu cynnydd datgarboneiddio pob sefydliad ac yna, gyda chymorth AI cynhyrchiol, mae'n creu cynllun pwrpasol ar gyfer gweithredu pellach, a nodir mewn pum cam allweddol.

Yna gall y busnesau gofal cymdeithasol sy'n gweithredu ar yr awgrymiadau dorri eu hôl troed carbon a gwella eu gallu i gystadlu wrth dendro am gontractau sector cyhoeddus.

"Daw bron i dri chwarter ein hallyriadau carbon o'n cadwyn gyflenwi felly, mae'n faes allweddol i'w leihau, gyda swm mawr o'r gwariant hwn (tua thraean) yn mynd ar ofal cymdeithasol," meddai'r Cynghorydd David Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Cyllid a Thrawsnewid Corfforaethol.

"Rwy'n llongyfarch staff Powys yn y Gwasanaethau Digidol, Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Chaffael a Masnachol, a fu'n gweithio ar Borth Cynaliadwyedd y Gadwyn Gyflenwi. Hoffwn ddiolch hefyd i Lywodraeth Cymru am ariannu'r gwaith drwy Grant Argyfwng Hinsawdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol."

Ychwanegodd y Cyng Sian Cox, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Ofalgar: "Mae gan ofal cymdeithasol ôl troed carbon mawr iawn ac mae'n faes gwario mawr o fewn y cyngor. Mae gennym ddyletswydd ond hefyd rhwymedigaeth foesol i fod ar flaen y gad yn yr ymdrech i ddatgarboneiddio, ac mae hynny'n cynnwys yr asiantaethau yr ydym yn eu comisiynu a phrynu ganddynt. 

"Gweithiodd ein Tîm Comisiynu Gofal Cymdeithasol i Oedolion gyda chyflenwyr i ddeall y rhwystrau i ddatgarboneiddio ar eu cyfer, ac roedd yr ap gwe wedi'i gynllunio i helpu i oresgyn y rhwystrau hynny. Mae'n ddarn blaenllaw o waith y gall y tîm fod yn falch iawn ohono."

Mae'r porth cynaliadwyedd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd felly, gall hefyd gael ei ddefnyddio gan bob busnes yng nghadwyn gyflenwi'r cyngor, gyda'r sectorau priffyrdd, trafnidiaeth ac ailgylchu y nesaf i elwa.

Mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud fel rhan o Raglen Trawsnewid Hinsawdd a Natur y cyngor, sy'n ceisio ei helpu i gyrraedd Allyriadau Sero Net ar gyfer allyriadau carbon erbyn 2030 ac i 30 y cant o dir a dŵr y sir gael eu gwarchod a'u rheoli'n gadarnhaol ar gyfer natur erbyn yr un dyddiad. 

Mae Gwobrau GO yn dathlu cyflawniadau caffael sefydliadau sector cyhoeddus Cymru: https://wales.goawards.co.uk/cy/home-welsh-3/

LLUN: Wayne Welsby, Grant Thomas a Christian Ikechi Obua o Wasanaethau Caffael a Masnachol y cyngor yn casglu gwobr y Fenter Sero Net Orau.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu