Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Os oes gennych Fy Nghyfrif Powys, cymerwch ran yn ein harolwg os gwelwch yn dda

Mae'r gwaith ar bont teithio llesol y Drenewydd yn parhau

Newtown active travel bridge in July 2024

12 Tachwedd 2024

Newtown active travel bridge in July 2024
Bydd gwaith ar y bont seiclo a theithio llesol i gerddwyr newydd yn y Drenewydd yn parhau i'r Flwyddyn Newydd. 
 
Ers i strwythur Pont Teithio Llesol y Drenewydd gael ei godi i'w le dros Afon Hafren yn ôl ym mis Mehefin, mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo i osod dec y bont, adeiladu'r llwybrau cysylltu a chwblhau'r tirlunio cyfagos â'r ardal y tu allan i'r gampfa. Er gwaethaf rhai heriau anodd oherwydd lleoliad a chymhlethdod y prosiect, mae'r gwaith wedi bod yn mynd rhagddo'n dda.  
 
Fodd bynnag, siomedig yw nodi bod y contractwyr yn parhau i aros am rai cydrannau hanfodol a fydd yn rhan o'r rhwystr diogelwch ar bob ochr i'r bont (parapets) gael eu cynhyrchu, eu profi a chyrraedd o'r Swistir. Ar hyn o bryd, amcangyfrifir y bydd yr elfen olaf hanfodol hon o adeiladu'r bont yn cael ei gosod yn y Flwyddyn Newydd. Mae aros mawr amdani, ac unwaith y bydd y rhan olaf hon o'r broses adeiladu wedi'i chwblhau, bydd dyddiad agor y bont feiciau yn cael ei gadarnhau. Er y gallai hyn fod yn newyddion siomedig i drigolion mae diogelwch defnyddwyr yn flaenoriaeth.
 
Wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Trafnidiaeth Cymru, bydd y bont yn creu cyswllt teithio llesol diogel rhwng y cymunedau, busnesau ac amwynderau ar bob ochr i'r afon, gan gysylltu llwybr glan afon a chymunedau ar y gorllewin o Afon Hafren â Ffordd y Trallwng ar y dwyrain. 
 
Meddai'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach, "Bydd y prosiect hwn yn ychwanegu at y rhwydwaith cynyddol o lwybrau teithio llesol ledled y sir ac yn ei gwneud yn haws i bobl y Drenewydd wneud teithiau byr i'r gwaith, yr ysgol neu'r siopau lleol, ar feic neu ar droed, yn hytrach na gorfod mynd i mewn i'r car. 
 
"Hoffem hefyd ddiolch i'r gymuned leol am eu cydweithrediad drwy gydol y prosiect hwn. Rydym yn gwybod eu bod mor awyddus â ni i weld y bont yn cael ei gorffen a'i hagor i'r cyhoedd cyn gynted â phosib." 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu