Toglo gwelededd dewislen symudol

Mae'n Dechrau Gyda Dynion ar y Diwrnod Rhuban Gwyn hwn

Last year’s walk in Newtown

12 Tachwedd 2024

Last year’s walk in Newtown
Mae trigolion Powys yn cael eu hannog i ymuno ag un o dair taith gerdded yn y sir ddydd Llun 25 Tachwedd i ddangos eu cefnogaeth i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched.

Mae'r cyngor sir wedi eu trefnu i gefnogi'r mudiad Rhuban Gwyn byd-eang.

Eleni, mae elusen y Rhuban Gwyn yn annog mwy o ddynion i gymryd rhan mewn newid ymddygiad ac agweddau niweidiol ar sail rhyw, drwy ddefnyddio'r thema: 'Mae'n Dechrau Gyda Dynion'.

Bydd y teithiau cerdded yn dechrau am 12.30pm o:

  • Tŷ Cychod y Llyn, Llandrindod
  • Maes Parcio Heol Dinas, Aberhonddu
  • Canolfan Integredig i Deuluoedd y Drenewydd, Stryd y Parc

"Dewch i ymuno â ni ar un o'n tair taith gerdded ddydd Llun 25 Tachwedd ac os ydych chi'n ddyn - yn arbennig - ymunwch â ni i newid ymddygiad ac agweddau niweidiol ar sail rhyw a all annog trais yn erbyn menywod a merched," meddai'r Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys ac un o Brif Lysgenhadon Rhuban Gwyn.

"Hoffwn hefyd annog dynion a bechgyn ym Mhowys i wneud addewid y Rhuban Gwyn sef peidio byth â chyflawni trais, ei esgusodi neu aros yn dawel am drais yn erbyn menywod a merched. Gallwch wneud hyn ar-lein ar wefan Rhuban Gwyn y DU: https://www.whiteribbon.org.uk/promise?rq=promise ."

Mae Cyngor Sir Powys yn sefydliad sydd wedi'i achredu gan y Rhuban Gwyn sy'n golygu ei fod wedi ymrwymo i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod yng nghymunedau Powys, gwella ei ddiwylliant ei hun yn y gweithle a sicrhau diogelwch ei weithwyr benywaidd.

Mae'r Rhuban Gwyn yn gweithio i atal trais yn erbyn menywod a merched drwy annog dynion a bechgyn i wneud newidiadau i'r ffordd maen nhw'n ymarweddu ac yn ymddwyn: https://www.whiteribbon.org.uk/

Eleni, bydd yr elusen yn amlygu' r canlynol:

  • Dywed 70% o ferched yn y DU eu bod wedi profi aflonyddu rhywiol yn gyhoeddus. (APPG ar gyfer Menywod y Cenhedloedd Unedig, 2021)
  • Mae tair o bob pump o ferched wedi profi aflonyddu rhywiol, bwlio neu gam-drin geiriol yn y gweithle. (Cyngres yr Undebau Llafur, 2023)
  • Mae 17% o ferched yng Nghymru wedi profi trais ar-lein. (Yr Athro Olga Jurasz, Y Brifysgol Agored, 2024)
  • Dywedodd bron i chwarter (24%) y merched mewn ysgolion rhyw cymysg eu bod wedi cael profiadau o gyffwrdd rhywiol diangen yn yr ysgol. (EVAW, 2023)
  • Profodd 1.4 miliwn o fenywod gam-drin domestig yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023. (ONS, 2023)
  • Mae 63% o ddynion yn cytuno nad yw dynion mewn cymdeithas yn gwneud digon i sicrhau diogelwch menywod a merched. (YouGov, 2021)

LLUN: Taith cerdded y llynedd yn y Drenewydd.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu