Manteision i Weithwyr
Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw gwobrwyo ein staff am eu gwaith caled yn cefnogi ein cymunedau. Cynigiwn ystod eang o fanteision, gwobrwyon a chymorth i'n staff i'w helpu i gael gyrfaoedd ffyniannus.
Beth i'w ddisgwyl o ddod i weithio i Wasanaethau Plant Powys
Cyflogau cystadleuol
Mae'r graddfeydd cyflog hyn yn gywir ar 1 Ebrill 2024.
- Graddfa 10 Gweithiwr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso £37,035 - £38,626
- Graddfa 11 Gweithiwr Cymdeithasol £39,513 - £41,511
- Graddfa 12 Uwch Weithiwr Cymdeithasol £42,708 - £44,711
- Graddfa 13 Prif Weithiwr Cymdeithasol £46,731 - £48,710
- Graddfa 14 Rheolwr Tîm £50,788 - £52,805
Cynefino
Mae gan Wasanaethau Plant Powys raglen gynefino gynhwysfawr i helpu staff newydd i gynefino yn eu swyddi.
Goruchwylio ac Arfarnu
Mae ein gweithwyr cymdeithasol cymwysedig yn derbyn mis o oruchwyliaeth o leiaf ac arfarniad blynyddol, yn ogystal â chymorth parhaus fel bo angen gan eu rheolwr.
Mentora
Yn ystod eich blwyddyn ymarfer gyntaf, bydd gennych fentor i'ch cynorthwyo ymhellach i weithredu eich ymarfer ar sail cryfderau. Fel rhan o'u rôl, mae ein mentoriaid yn gweithio'n agos ag uwch-reolwyr i ddatblygu a gwella ein gwasanaethau. Bydd gennych hefyd efallai gyfle i dderbyn hyfforddiant mentora er mwyn darparu cymorth ychwanegol i'n timau a meithrin diwylliant o ddysgu parhaus mewn amgylchedd diogel.
Gwasanaeth Seicoleg Mewnol
Mae Seicolegydd Clinigol yn y tîm Gwasanaethau Plant a'u rôl yw cynorthwyo staff i feddwl am y plant a'r teuluoedd y maen nhw'n eu cefnogi.
Mae ymgynghori achosion ar gael i staff a gofalwyr ac mae'r Seicolegydd yn darparu sesiynau trafod achosion / myfyrio grŵp i dimau penodol.
Mae ein Seicolegydd yn gweithio ag Uwch-Reolwyr i adnabod a datblygu prosiectau ac adnoddau i hybu a chefnogi lles staff, sy'n flaenoriaeth allweddol yn y gwasanaeth.
Hyfforddiant a Datblygu
Os ydych yn chwilio am sefydliad er mwyn gallu symud ymlaen yn eich gyrfa, Powys yw'r lle i chi. Buddsoddwn yn ein holl staff i sicrhau bod ganddynt y sgiliau, hyfforddiant a'r profiadau iawn i ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf i bobl, plant, pobl ifanc a theuluoedd Powys. Mae ein rhaglen hyfforddiant, dysgu a datblygu gynhwysfawr yn cefnogi datblygiad proffesiynol ein holl staff. Gwahoddwn siaradwyr gwadd yn rheolaidd i siarad â'n tîm o reolwyr gweithredol ac rydym wedi croesawu siaradwyr o bob rhan o'r byd. Yn ddiweddar daeth y Seicolegydd arbenigol Dr Treisman atom i roi sgwrs, ynghyd â'r hyfforddwr a'r ymgynghorydd annibynnol Siobhan McClean, ac Annie Bertram, awdur Surviving Safeguarding.
Cynhaliwn sioeau teithiol rheolaidd i staff ar draws y Sir er mwyn cyfle iddynt gyflwyno eu syniadau ar gyfer gwella, rhoi adborth, rhannu eu llwyddiannau ac i gydnabod y gwaith y mae staff yn ei wneud yn ddyddiol.
Cefnogwn ethos o "dyfu ein hunain" a chynigiwn staff yn flynyddol fel ymgeiswyr i hyfforddi ar gyfer gradd mewn Gwaith Cymdeithasol. Fodd bynnag, mae'r ethos "tyfu ein hunain" yn ehangach na gwaith cymdeithasol a gwelsom staff yn symud ymlaen at amrywiaeth o swyddi uwch, gan gynnwys fel uwch-reolwyr.
Cefnogwn ein staff i barhau i ddiweddaru eu gwybodaeth a'u sgiliau a gweithio'n gyson i wella'n barhaus.
Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso
Er mwyn cynnig pecyn cymorth cryf i'n Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso (NQSW), rydym wedi gweithredu a chryfhau Fframwaith Cenedlaethol y Tair Blynedd Ymarfer Gyntaf. Datblygwyd Canllawiau Ymarfer newydd, sy'n cynnwys y meysydd allweddol isod:
Cyfnod cynefino hirach a mwy trylwyr, gyda mwy o gyfle i gysgodi er mwyn creu rhwydweithiau a dysgu mwy am wasanaethau a thimau lleol.
- Grwpiau cymorth misol gyda hwyluswyr, i'n holl Weithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso.
- Canllawiau 'o dipyn i beth' ar y llwyth gwaith a chymhlethdod y llwyth gwaith.
- Mentora a goruchwylio rheolaidd.
- Diwrnod pob mis yn eich blwyddyn ymarfer gyntaf i weithio ar eich datblygiad personol a'ch portffolio ymarfer.
- Adolygiadau datblygu rheolaidd â'r tîm datblygu'r gweithlu.
Academi Iechyd a Gofal
Rydym wedi gweithio mewn cydweithrediad â'n partneriaid i ddatblygu Academi Iechyd a Gofal ym Mhowys sy'n cynnig cyfleoedd dysgu wyneb yn wyneb a digidol. Mae Academi Iechyd a Gofal Powys yn rhan o ymateb traws-Gymru i gynyddu mynediad at addysg a hyfforddiant yn y sector iechyd a gofal a bydd yn cael ei datblygu ymhellach gyda'r bwriad mai'r Academi fydd y darparwr craidd yn y Sir erbyn 2027.
Ymgysylltu
Mae ein staff yn cael cyfle i gyflwyno eu syniadau arloesol ar gyfer gwella, rhannu adborth a chynnig straeon newyddion da. Mae'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol wedi sefydlu grŵp cynrychiolwyr staff ac anogir staff i ymuno â'r grŵp hwn. Mae'r Cyfarwyddwr, Penaethiaid Gwasanaeth ac Uwch-Reolwyr yn mynychu'r cyfarfod i drafod 'unrhyw beth dan haul'.