Manteision i Weithwyr
Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw gwobrwyo ein staff am eu gwaith caled yn cefnogi ein preswylwyr a'n cymunedau. Cynigiwn ystod eang o fanteision a chymorth i'n staff i'w helpu i gael gyrfaoedd ffyniannus.
Beth i'w ddisgwyl o ddod i weithio i Wasanaethau Oedolion Powys
Cyflogau Xystadleuol
Cynigiwn gyflogau cystadleuol a rhoddir manylion llawn y cyflogau a dalwn ar gyfer swyddi unigol yn ein swydd-ddisgrifiadau. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â recruitment@powys.gov.uk
Cynefino
Mae gennym raglen gynefino gynhwysfawr i helpu staff newydd i gynefino yn eu swyddi.
Goruchwylio ac Arfarnu
Mae ein staff i gyd yn derbyn goruchwyliaeth ac arfarniad blynyddol, yn ogystal â chymorth parhaus fel bo angen gan eu rheolwr.
Mentora
Rydym wedi cefnogi nifer o staff i dderbyn hyfforddiant mentora ar y cyd â Gofal Cymdeithasol Cymru er mwyn darparu cymorth ychwanegol i'n timau a meithrin diwylliant o ddysgu parhaus mewn amgylchedd diogel. Fel rhan o'u rôl, mae ein mentoriaid yn gweithio'n agos ag uwch-reolwyr i ddatblygu a gwella ein gwasanaethau. I gynorthwyo gweithwyr achos ymhellach i weithredu arferion seiliedig ar gryfderau, rydym wedi creu llyfrgell o enghreifftiau da.
Cyd-Fyfyrio
Cefnogwn ein gweithwyr cymdeithasol drwy sesiynau myfyrio tîm fel eu bod yn gallu myfyrio ar eu hymarfer a'u datblygiad proffesiynol parhaus a rhannu eu dysgu.
Hyfforddiant a Datblygu
Os ydych yn chwilio am sefydliad er mwyn gallu symud ymlaen yn eich gyrfa, Powys yw'r lle i chi. Buddsoddwn yn ein holl staff i sicrhau bod ganddynt y sgiliau, hyfforddiant a'r profiadau iawn i ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf i bobl, plant, pobl ifanc a theuluoedd Powys. Mae ein rhaglen hyfforddiant, dysgu a datblygu gynhwysfawr yn cefnogi datblygiad proffesiynol ein holl staff. Gwahoddwn siaradwyr gwadd yn rheolaidd i siarad â'n tîm o reolwyr gweithredol ac rydym wedi croesawu siaradwyr o bob rhan o'r byd. Yn ddiweddar daeth y Seicolegydd arbenigol Dr Treisman atom i roi sgwrs, ynghyd â'r hyfforddwr a'r ymgynghorydd annibynnol Siobhan McClean, ac Annie Bertram, awdur Surviving Safeguarding.
Cynhaliwn sioeau teithiol rheolaidd i staff ar draws y Sir er mwyn cyfle iddynt gyflwyno eu syniadau ar gyfer gwella, rhoi adborth, rhannu eu llwyddiannau ac i gydnabod y gwaith y mae staff yn ei wneud yn ddyddiol.
Cefnogwn ethos o "dyfu ein hunain" a chynigiwn staff yn flynyddol fel ymgeiswyr i hyfforddi ar gyfer gradd mewn Gwaith Cymdeithasol. Fodd bynnag, mae'r ethos "tyfu ein hunain" yn ehangach na gwaith cymdeithasol a gwelsom staff yn symud ymlaen at amrywiaeth o swyddi uwch, gan gynnwys fel uwch-reolwyr.
Cefnogwn ein staff i barhau i ddiweddaru eu gwybodaeth a'u sgiliau a gweithio'n gyson i wella'n barhaus.
Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso
Er mwyn cynnig pecyn cymorth cryf i'n Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso (NQSW), rydym wedi gweithredu a chryfhau Fframwaith Cenedlaethol y Tair Blynedd Ymarfer Gyntaf. Datblygwyd Canllawiau Ymarfer newydd, sy'n cynnwys y meysydd allweddol isod:
Cyfnod cynefino hirach a mwy trylwyr, gyda mwy o gyfle i gysgodi er mwyn creu rhwydweithiau a dysgu mwy am wasanaethau a thimau lleol.
- Grwpiau cymorth misol gyda hwyluswyr, i'n holl Weithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso.
- Canllawiau 'o dipyn i beth' ar y llwyth gwaith a chymhlethdod y llwyth gwaith.
- Mentora a goruchwylio rheolaidd.
- Diwrnod pob mis yn eich blwyddyn ymarfer gyntaf i weithio ar eich datblygiad personol a'ch portffolio ymarfer.
- Adolygiadau datblygu rheolaidd â'r tîm datblygu'r gweithlu.
Academi Iechyd a Gofal
Rydym wedi gweithio mewn cydweithrediad â'n partneriaid i ddatblygu Academi Iechyd a Gofal ym Mhowys sy'n cynnig cyfleoedd dysgu wyneb yn wyneb a digidol. Mae Academi Iechyd a Gofal Powys yn rhan o ymateb traws-Gymru i gynyddu mynediad at addysg a hyfforddiant yn y sector iechyd a gofal a bydd yn cael ei datblygu ymhellach gyda'r bwriad mai'r Academi fydd y darparwr craidd yn y Sir erbyn 2027.
Ymgysylltu
Mae ein staff yn cael cyfle i gyflwyno eu syniadau arloesol ar gyfer gwella, rhannu adborth a chynnig straeon newyddion da. Mae'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol wedi sefydlu grŵp cynrychiolwyr staff ac anogir staff i ymuno â'r grŵp hwn. Mae'r Cyfarwyddwr, Penaethiaid Gwasanaeth ac Uwch-Reolwyr yn mynychu'r cyfarfod i drafod 'unrhyw beth dan haul'.