Arolygiad cadarnhaol ar gyfer Diogelu Corfforaethol
14 Tachwedd 2024
Cynhaliwyd archwiliad o ddiogelu corfforaethol y cyngor sir rhwng mis Gorffennaf a mis Tachwedd eleni i asesu cynnydd ar argymhellion a gyhoeddwyd gan Archwilio Cymru ym mis Tachwedd 2022.
Yn ei ddarganfyddiadau diweddaraf dywedodd Archwilio Cymru, "Ar y cyfan, canfuom fod y Cyngor wedi gweithredu'n bendant ac yn gyflym wrth ymateb i'r argymhellion yn ein hadroddiad yn 2022 a bod ganddo bellach lefel dda o reolaeth dros ei drefniadau diogelu corfforaethol.
"Canfuom fod y Cyngor wedi gweithredu saith o'r un ar ddeg argymhelliad yn llawn a bod cynlluniau ar waith i fynd i'r afael â'r pedwar argymhelliad arall.
"Agwedd bwysig o ddull gweithredu'r Cyngor fu gweithrediad y Bwrdd Diogelu Corfforaethol. Mae'r Bwrdd yn adrodd yn rheolaidd i'r Pwyllgor Craffu, Llywodraethu ac Archwilio a'r Cabinet er mwyn darparu trosolwg o gamau gweithredu'r Cyngor."
Wrth groesawu'r canfyddiadau dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Diogel, "Mae hyn yn newyddion gwych i'r cyngor sir ac yn dyst i waith caled ac ymroddiad staff ac aelodau etholedig ledled y cyngor.
"Nid cyfrifoldeb un adran yn y cyngor yw diogelu corfforaethol, mae gan bawb, o gynghorwyr ac uwch swyddogion, i'r holl staff rheng flaen, rôl i'w chwarae i amddiffyn plant ac oedolion a all fod mewn perygl o ddioddef niwed.
"Mae'r adroddiad yn newyddion ardderchog, ond ni allwn fod yn hunanfodlon, rydym wedi gweithredu saith o'r 11 argymhelliad o archwiliad 2022 yn llawn ac mae gwaith wedi hen ddechrau ar y gweddill, mae'n rhaid i ni gwblhau'r gwaith a sicrhau bod ein gwasanaethau'n parhau i fynd o nerth i nerth."
Gallwch ddod o hyd i adroddiad Archwilio Cymru yma https://www.audit.wales
Bydd Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'r cyngor yn ystyried yr adolygiad dilynol gan Archwilio Cymru ddydd Mercher, 20 Tachwedd.