Adroddiadau newydd yn datgelu bod Gwasanaethau Cynllunio yn bodloni argymhellion Archwilio Cymru yn llwyr
14 Tachwedd 2024
Heddiw (dydd Iau, 14 Tachwedd), cyhoeddodd Archwilio Cymru ei waith dilynol ar yr adolygiad a chanfu fod y gwasanaeth cynllunio wedi ymateb yn gyflym drwy gymryd camau effeithiol i wella ei drefniadau.
Daeth yr adroddiad i ben drwy ymateb i argymhellion Archwilio Cymru yn effeithiol, mae'r gwasanaeth bellach mewn gwell sefyllfa i sicrhau y gall gynnal y gwelliannau hynny.
Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet ar gyfer Cysylltu Powys: "Nid oeddwn yn synnu darllen canfyddiadau Archwilio Cymru pan wnaethant gynnal eu hadolygiad o'n gwasanaethau cynllunio yn ôl yn 2023 a gwnaethom eu derbyn yn llawn ar y pryd.
"Wrth ddod yn ddeilydd portffolio ar gyfer cynllunio, roedd yn amlwg i mi, pan oeddem yn dod allan o argyfwng COVID, nad oeddem yn cynnig y gwasanaeth cynllunio gorau i ymgeiswyr, asiantau cynllunio na'r cyhoedd.
"Fe wnes i groesawu'n fawr adroddiad Archwilio Cymru yn 2023 am y cyfle a roddodd i mi gynnal adolygiad llawn o'r gwasanaeth.
"Wrth gadeirio'r Bwrdd Gwella Cynllunio, gosodais uchelgais glir y dylid cydnabod ein gwasanaeth cynllunio fel un a oedd 'yn uchel ei barch'.
"Gan weithio o fewn cyllidebau presennol, gofynnais i'r Gwasanaeth Cynllunio ei hun gymryd cyfrifoldeb am y gwaith o drawsnewid rheolaeth a gorfodaeth datblygu ac arwain y gwaith hwn.
"Yr hyn y mae'r adolygiad dilynol gan Archwilio Cymru yn ei ddweud wrthym yw bod y gwasanaeth wedi cymryd perchnogaeth o'r broblem yn llwyddiannus ac wedi cyflwyno nifer o syniadau a mentrau, gan gyflawni gwelliannau i wasanaethau a newid diwylliant y tîm i un sy'n llawer mwy rhagweithiol ac ymgysylltiol.
"Nid yn unig yw argymhellion cychwynnol Archwilio Cymru wedi'u cyflawni'n llwyr, ond rwy'n falch o ddweud bod ein gwasanaeth cynllunio, mewn rhai meysydd o'n gwaith, bellach yn cael ei ddangos fel esiampl enghreifftiol i eraill.
"Ein staff o fewn ein gwasanaeth cynllunio fydd y cyntaf i gydnabod bod ganddynt le i wella o hyd, ond mae'n rhaid i mi eu llongyfarch yn fawr gan gydnabod eu bod, drwy eu hymdrechion eu hunain, ac yn briodol iawn wedi dyfod i fod yn uchel eu parch bellach.
Gallwch ddod o hyd i adroddiad Archwilio Cymru yma https://www.audit.wales
Bydd Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'r cyngor yn ystyried yr adolygiad dilynol gan Archwilio Cymru ddydd Mercher, 20 Tachwedd.