Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Bydd llinellau ffôn Treth y Cyngor ac Ardrethi Busnes ar gau ddydd Mercher 20 Tachwedd 2024 oherwydd hyfforddiant staff.

Dewch i Siarad: Byw ym Mhowys

Dewch i siarad graphic on a background showing Powys Countryside

18 Tachwedd 2024

Dewch i siarad graphic on a background showing Powys Countryside
Mae dal i fod amser i breswylwyr rannu eu barn ar fyw ym Mhowys i helpu i lunio cynlluniau a darparu gwasanaethau yn y dyfodol, meddai'r cyngor sir.

Mae'r arolwg o'r enw "Dewch i Siarad: Byw ym Mhowys" yn gyfle i breswylwyr rannu eu barn ar fywyd yn y sir a'u profiadau o ddefnyddio gwasanaethau'r Cyngor.

Drwy ymateb i'r arolwg hwn, byddwch yn helpu'r Cyngor i ddeall yn well:

  • Yr hyn sy'n bwysig i chi
  • Eich profiad o'ch ardal leol
  • Sut rydych yn rhyngweithio â'r Cyngor a'ch barn am hynny

Eglurodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Agored a Thryloyw, "Gall eich barn helpu i lunio eich ardal leol a'ch gwasanaethau lleol. Mae llawer o gynghorau lleol eraill ledled Cymru hefyd wrthi'n gofyn yr un cwestiynau.

"Mae'n bwysig clywed gan gymaint o breswylwyr â phosib. A fyddech cystal ag annog eich teulu, ffrindiau a chymdogion i lenwi'r arolwg hwn."

Y dyddiad cau yw dydd Gwener 13 Rhagfyr 2024.

Llenwch yr arolwg ar-lein yma:https://surveys.data.cymru/s/524ArolwgPreswylwyr_ResidentSurvey/

Mae Data Cymru yn cynnal yr arolwg hwn ar ran Cyngor Sir Powys. I gael rhagor o wybodaeth ac i gael mynediad at ffurf i'w argraffu a'i lawrlwytho a chopïau Hawdd eu Darllen o'r arolwg, ewch i: https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/arolwg-powys 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu