Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Bydd llinellau ffôn Treth y Cyngor ac Ardrethi Busnes A llinellau Dyfarniadau ar gau 5 Rhagfyr oherwydd hyfforddiant staff.

Y Diweddaraf am Bont Melverley

Image of Melverley Bridge

22 Tachwedd 2024

Image of Melverley Bridge
Erbyn hyn, mae'r gwaith o atgyweirio pileri cynnal Pont Melverley, ger Crew Green, wedi'i gwblhau ac mae'r bont ar agor i'w defnyddio gyda chyfyngiadau pwysau cyfredol o 7.5 tunnell. 
 
Gan weithio ar y cyd, mae Cyngor Swydd Amwythig a Chyngor Sir Powys mewn trafodaethau i ystyried sut y gellir cael mynediad heb gyfyngiadau unwaith yn rhagor dros Bont Melverley a pha drefniadau ariannu allai fod eu hangen ar gyfer y gwaith angenrheidiol. Mae'r trafodaethau hyn yn mynd rhagddynt wrth i atebion atgyweirio a/neu amnewid gael eu datblygu. 
 
Ar hyn o bryd, mae Cyngor Swydd Amwythig yn ymchwilio gyda'i gontractwr cynnal a chadw (Kier), ddichonoldeb atgyweirio neu ddulliau lleol i alluogi gosod pont newydd o fewn amserlenni cyflym. Mae'r ddau gyngor yn ymwybodol iawn o'r anawsterau y mae'r cyfyngiadau pwysau presennol yn eu creu i gymunedau ffermio lleol ac maent yn awyddus i fynd i'r afael â phryderon yn ddi-oed. 
  
Er mwyn lleihau unrhyw darfu pellach ar gymunedau ffermio lleol, mae Cyngor Sir Powys wedi cytuno i ohirio gweithredu cyfyngiad lled ar Bont Llandrinio gerllaw nes bod gwaith pellach i Bont Melverley wedi'i gwblhau a'r cyfyngiad pwysau wedi'i ddileu. 
 
Mae pont Llandrinio yn strwythur cul, rhestredig sydd wedi dioddef difrod sylweddol i'w waliau/parapedau a strwythur y bont oherwydd gwrthdrawiadau a defnydd parhaus gan gerbydau mawr a thrwm. Bydd gwaith i gyflwyno mesurau i atal unrhyw ddifrod pellach yn cael ei gyflwyno'n ddiweddarach.  
 
Dywedodd Dan Morris, aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd Cyngor Swydd Amwythig: "Rwy'n falch bod y gwaith hwn bellach wedi'i gwblhau a bod y bont ar agor eto i gerbydau sy'n is na'r terfyn pwysau o 7.5t - a hoffwn ddiolch i bawb sy'n gysylltiedig. Byddwn nawr yn gweithio'n agos at Gyngor Sir Powys fel bod modd agor y bont i'r holl draffig cyn gynted â phosib." 
 
Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach: "Mae cynnal rhwydwaith ffyrdd a phontydd y sir yn dasg barhaus, wedi'i gwneud yn anoddach pan nad yw strwythurau yn aml yn addas i'r diben mwyach gyda cherbydau mwy a thraffig cynyddol. Gan weithio gyda chydweithwyr o Gyngor Swydd Amwythig, rydym yn gobeithio datblygu cynllun gweithredu i gael llif traffig dros Bont Melverley yn ôl i'r arfer cyn gynted â phosib."  
 
Bydd diweddariadau pellach ar y cynlluniau ar gyfer Pont Melverley yn cael eu darparu wrth i opsiynau a chynigion gael eu datblygu. 

Llun: kevin skidmore / River Severn,Crewgreen road bridge / CC BY-SA 2.0

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu