Toglo gwelededd dewislen symudol

Setliad cyllideb dros dro gan Lywodraeth Cymru

Image of new British money

13 Rhagfyr 2024

Image of new British money
Bydd angen gwneud penderfyniadau anodd o hyd er gwaethaf cynnydd yn y setliad dros dro ar gyfer llywodraeth leol gan Lywodraeth Cymru, meddai Cyngor Sir Powys.

Dywedwyd wrth y cyngor y byddai ei gyllid blynyddol yn cynyddu 3.2% ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26 - llai na'r cynnydd cyfartalog o 4.3% yng Nghymru.

Ni fydd y cynnydd yn ddigon i ddiwallu'r pwysau difrifol y mae'r cyngor yn ei wynebu ar hyn o bryd oherwydd y galw cynyddol am wasanaethau, chwyddiant prisiau, costau darparwyr a dyfarniadau cyflog cenedlaethol.

Dywedodd y Cynghorydd David Thomas, Aelod Cabinet dros Gyllid a Thrawsnewid Corfforaethol: "Er ein bod wedi gweld cynnydd yn ein setliad dros dro ar gyfer llywodraeth leol gan Lywodraeth Cymru, y realiti yw bod diffyg cyllid o hyd y bydd angen i ni fynd i'r afael ag ef er mwyn sicrhau ein bod ni'n darparu cyllideb gytbwys.

"Mae'n amlwg bod yr arian sydd ar gael i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus yn dod yn fwyfwy cyfyngedig a bydd hyn yn dominyddu'r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau am flynyddoedd lawer i ddod.

"Mae'r cyngor yn wynebu rhai penderfyniadau anodd wrth i ni geisio darparu cyllideb gytbwys a allai weld newidiadau i'r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau'r cyngor yn ogystal â chynnydd yn nhreth y cyngor."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu