Ailwampio gerddi a mannau cymunedol yng nghyfadeilad tai Machynlleth
16 Rhagfyr 2024
Mae'r prosiect yn Nhrem yr Allt, sydd wedi gweld amrywiaeth o welliannau yn cael eu gwneud i wella'r gerddi a thu allan i'r eiddo, wedi'i gwblhau gan Gyngor Sir Powys. Gwnaed y gwaith gan SWG Construction ar ran y cyngor.
Roedd ailosod dau risiau dur a balconi dur i gael mynediad i lawr uchaf bloc o chwe fflat ar y llawr gwaelod a chwe fflat deulawr yn ganolog i'r prosiect, gyda'r rhannau hynny wedi'u hadeiladu'n wreiddiol yn 1974.
Cafodd yr hen garejis unigol eu dymchwel i wneud lle i faes parcio newydd, ac adeiladwyd deildy i orchuddio man eistedd newydd.
Mae man sychu dillad a storfa finiau newydd hefyd wedi'u creu, ynghyd â llwybr troed resin sy'n cysylltu'r seddi â'r eiddo.
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys ac Aelod Cabinet dros Bowys Tecach: "Fel rhan o'n Cynllun Busnes Tai - Cartrefi ym Mhowys, rydym yn buddsoddi mwy na £6.8m i wella lles cymunedau trwy welliannau i tai cyngor ac ystadau.
"Rwy'n falch iawn bod y gweithiau hyn wedi digwydd a bod Trem yr Allt wedi elwa o'n buddsoddiad. Hoffwn ddiolch i SWG Construction am wneud y gwaith hwn ar ein rhan."
Dywedodd Jacqui Gough, cyfarwyddwr Grŵp SWG, fod y prosiect wedi gwneud gwahaniaeth mawr i edrychiad ac ymdeimlad cyffredinol yr ardal.
Dywedodd: "Mae cael gwared ar yr hen garejis a chreu maes parcio newydd wedi agor y lle, ac mae'r ardal eistedd newydd a'r llwybr resin yn rhoi gwedd gyfoes hyfryd i'r cyfadeilad cyfan.
"Fe wnaethon ni hefyd greu gwelyau blodau uchel newydd a gosod blychau adar ac ystlumod i annog bywyd gwyllt, tra bod preswylwyr wedi cymryd rhan trwy blannu bylbiau sydd i fod i flodeuo yn y gwanwyn.
"Roedd y grisiau dur a'r balconi yn waith eithaf mawr, ac roedd yn cynnwys creu grisiau dros dro i sicrhau bod preswylwyr yn dal i allu cael mynediad i'w heiddo tra bod y gwaith yn cael ei wneud.
"Hoffem ddiolch i Gyngor Sir Powys am eu cefnogaeth gyda'r prosiect hwn, a gobeithio y bydd y trigolion yn mwynhau'r ardal gymunedol sydd wedi gwella'n fawr dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod."
Yn hytrach na dinistrio'r hen faneri metel o'r safle, maen nhw'n mynd i gael eu hailgylchu yng Nghlwb Bowlio Machynlleth.
Rhoddodd Grŵp SWG hefyd gyfraniad ariannol i'r ysgol leol, Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth i gyfrannu at atgyweirio eu deildy pren, fel rhan o ymrwymiad y cwmni i helpu'r gymuned leol yn ystod prosiectau adeiladu.
I gael rhagor o wybodaeth am Grŵp SWG, ewch i www.swg.co.uk