Adolygiad Hamdden i'w Ohirio
16 Rhagfyr 2024
Mae'r cyngor wedi bod yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o wasanaethau i edrych ar y ffordd y gellid eu darparu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Dywedodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Powys Ddiogelach, y Cynghorydd Richard Church: "Rydym am osod y sylfeini ar gyfer gwasanaeth cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol i helpu i gefnogi poblogaeth egnïol ac iach yn y sir.
"Mae ein gwasanaethau yn uchel eu parch ac wedi cael cefnogaeth dda yn y gorffennol, ond mae rhan gychwynnol yr adolygiad wedi dangos na all y cyfleusterau presennol gyflawni ein dyheadau ar gyfer sir iach ac egnïol, heb fuddsoddiad a chydweithrediad sylweddol gyda chymunedau.
"Rydym yn gohirio'r adolygiad tan yr haf er mwyn caniatáu i drafodaethau ystyrlon gydag ardaloedd gael eu cynnal. Bydd barn cymunedau yn chwarae rhan bwysig wrth helpu'r cyngor i lunio ei gynlluniau hamdden.
"Mae'r cyngor yn wynebu pwysau ariannol hirdymor sylweddol ac mae creu sir gynaliadwy yn ymwneud â chydweithio i ddod o hyd i ffyrdd o ddiogelu dyfodol gwasanaethau y mae pobl yn eu gwerthfawrogi. Mae'n ymwneud â meithrin cydnerthedd fel y gall atebion a arweinir gan y gymuned helpu i ddiwallu anghenion lleol.
"Mae trafod gyda'n hardaloedd yn rhan bwysig o Bowys Gynaliadwy a bydd dyfodol hamdden a chwaraeon bellach yn rhan o'r broses honno," ychwanegodd.