Trawsnewid clwb nos segur yn fanc bwyd a chanolfan gynghori
20 Rhagfyr 2024
Dyfarnodd y cyngor £146,000 tuag at gost ail gam y gwaith adeiladu i adnewyddu safle Oasis y tu ôl i Westy'r Commodore, ar Spa Road, a elwid gynt yn The Venuea V Nightclub and Bar.
Darparwyd y cyllid ar ffurf Grant Creu Lleoedd gan Lywodraeth Cymru, drwy ei Raglen Trawsnewid Trefi, ac fe'i defnyddiwyd i helpu i greu:
- Gofod swyddfa i'w ddefnyddio gan y banc bwyd a'i bartneriaid.
- Derbynfa ar gyfer cyfarfodydd a chymdeithasu.
- Canolfan gynghori gydag ystafelloedd cyfarfod preifat.
- Cegin ar gyfer paratoi prydau poeth a byrbrydau, ac i redeg cyrsiau coginio.
- Mynedfa hygyrch, drysau a ffenestri newydd.
Roedd hyn yn ategu gwaith blaenorol ar y safle, oedd hefyd wedi ei gefnogi gan y cyngor drwy Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru ac a greodd:
- Ardal storio a dosbarthu bwyd.
- Toiledau a chyfleusterau cawod ar gyfer pobl sy'n cysgu ar y stryd.
- Golchdy ar gyfer golchi dillad a dillad gwely.
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Ymddiriedolaeth Trussell, Sefydliad Garfield Weston ac Ymddiriedolaeth Benefact hefyd wedi darparu grantiau i'r banc bwyd.
Mae Banc Bwyd Llandrindod yn gorchuddio ardal fawr o ganol Powys ac yn ogystal â rhoi parseli bwyd allan o'i gartref yn Spa Road mae ganddo safleoedd lloeren yn Llanfair-ym-Muallt (swyddfa Cymorth Cymunedol) a Llanwrtyd (Institute): https://llandrindod.foodbank.org.uk/
Symudodd i adeilad Oasis ym mis Rhagfyr 2021, ar ôl iddo gael ei brynu i'r elusen gan ddau gymwynaswr lleol sydd am aros yn ddienw.
Dosbarthodd Banc Bwyd Llandrindod 1,151 o barseli bwyd rhwng 1 Ebrill a 30 Medi eleni, gan gynnwys 379 i helpu i fwydo plant 16 oed neu iau. Roedd cyfanswm y parseli bwyd 153 yn fwy na'r un cyfnod y llynedd.
"Ar y cyd â'n hasiantaethau partner, rydym yn gwasanaethu cyfanswm o 500 milltir sgwâr, ac mae'r cyfleuster hwn ar gael i unrhyw un sydd ei angen," meddai Tessa Bradley, Rheolwr Prosiect Banc Bwyd a Chanolfan Gynghori Llandrindod. "Drwy ddarparu mynediad at gyngor ar faterion ariannol, cyllidebu, budd-daliadau, swyddi a thai ac ati, rydym yn rhagweld y bydd mwy o bobl yn gallu dychwelyd i gyfrannu at dwf economaidd y dref a'r ardaloedd cyfagos.
"Hefyd, rydym yn gobeithio gweld gostyngiad yn nifer y bobl sydd angen defnyddio'r banc bwyd dros amser."
Cefnogir rhaglen Trawsnewid Trefi yn y Canolbarth gan Dimau Datblygu Economaidd ac Adfywio Cyngor Sir Powys a Cheredigion.
Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys fwy Llewyrchus: "Mae'n wych gweld Banc Bwyd Llandrindod yn gallu ehangu'r ystod o wasanaethau y mae'n eu cynnig, gyda chymorth Grant Creu Lleoedd, ac rwy'n gobeithio'n fawr y byddant yn llwyddo i ddefnyddio'r rhain i leihau nifer y bobl sydd angen eu cefnogaeth dros amser.
"Ein nod yw creu Powys gryfach, decach a gwyrddach ac mae eu gwaith anhygoel yn ein helpu i gyflawni'r nod hwnnw."
Mae rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar gefnogi bywiogrwydd canol ein trefi, datblygu seilwaith gwyrdd, galluogi creu swyddi, a gwella cyfleusterau cymunedol a mynediad at wasanaethau. Mae dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd buddiol yn elfen ganolog o'r rhaglen, ac mae'r Canolbarth wedi cael £7m ers 2022 i gyflawni prosiectau Adfywio canol tref.
Mae'r Grant Creu Lleoedd wedi'i gynllunio i fod yn hyblyg, ac wedi'i ddarparu drwy'r awdurdod lleol, i gefnogi ymyriadau ar raddfa lai (grant o hyd at £250,000) sy'n helpu i wella canol trefi.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant: "Mae'n wych gweld sut mae ein Rhaglen Trawsnewid Trefi, ac yn enwedig y Grant Creu Lleoedd, wedi helpu i drawsnewid yr adeilad segur hwn yn Llandrindod a'i atgyfodi at ddefnydd sydd o fudd i'r gymuned leol.
"Mae ein buddsoddiad i'r Canolbarth yn cefnogi gwytnwch economaidd a chymdeithasol canol trefi, gan greu cyfleoedd cyflogaeth a gwirfoddoli a gwella cyfleusterau cymunedol a mynediad at wasanaethau."
J.A. Morgan Construction, Llandrindod, fu'n gyfrifol am weithredu dau gam y gwaith adeiladu ar gyfer Banc Bwyd Llandrindod.
Gwelwyd tystiolaeth o'r angen am ddarpariaeth ehangach gan y banc bwyd yn Llandrindod drwy gynllun buddsoddi mewn trefi.
LLUN: Gwirfoddolwr yn cyflwyno parsel bwyd ym Manc Bwyd Llandrindod.