Ysgol Calon y Dderwen
Bydd y prosiect hwn yn golygu adeiladu ysgol gynradd newydd yn y Drenewydd.
Sefydlwyd Ysgol Calon y Dderwen ym mis Medi 2021 yn dilyn uno Ysgol Fabanod Ladywell Green ac Ysgol Iau Hafren. Ar hyn o bryd mae'r ysgol yn gweithredu o safleoedd y ddwy ysgol flaenorol.
Bydd yr ysgol yn cael ei hymestyn ymhellach ym mis Medi 2025 i gynnwys safle presennol Ysgol G.G. Treowen.
Y bwriad yw y bydd yr holl ddisgyblion yn symud i adeilad newydd ar safle presennol Ysgol Calon y Dderwen yn y dyfodol. Mae'r gwaith yn parhau ar gynlluniau ar gyfer yr adeilad newydd.
Mae'r prosiect hwn yn gysylltiedig â chynlluniau i ddarparu campws iechyd a lles newydd yn y Drenewydd fel rhan o Raglen Lles Gogledd Powys.
.