Ysgol Golwg Pen y Fan
Bydd y prosiect hwn yn golygu adeiladu ysgol gynradd newydd yn Aberhonddu.
Sefydlwyd Ysgol Golwg Pen y Fan ym mis Medi 2024 yn dilyn uno Ysgol Fabanod Mount Street, Ysgol Iau Mount Street ac Ysgol Gynradd Gymunedol Cradoc. Ar hyn o bryd mae'r ysgol yn gweithredu o safleoedd y tair ysgol flaenorol, gyda'r bwriad y bydd yn symud i adeilad newydd ar hen safle Ysgol Uwchradd Aberhonddu yn y dyfodol.
Mae gwaith yn digwydd i ddatblygu'r cynlluniau cychwynnol ar gyfer yr adeilad newydd.