Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Bydd llinellau ffôn yr adran Treth Cyngor ac Adfer ar gau ddydd Mercher 4 Mawrth 2026 oherwydd hyfforddiant tîm.

Llyfrgell i aros ar gau tan y flwyddyn newydd

A stack of books

20 Rhagfyr 2024

A stack of books
Ni fydd Llyfrgell y Trallwng yn ailagor yn ôl y bwriad ddydd Llun 23 Rhagfyr; yn hytrach, bydd y drysau'n ailagor ddydd Llun 6 Ionawr.

Y bwriad oedd y byddai'n agor yn y cartref dros dro newydd, yn y bythynnod ar ochr y gamlas ger Y Lanfa, ar ôl wythnos o seibiant, ond nid yw'r cynllun wedi'i gwblhau mewn pryd.

Os yw darllenwyr yn ardal y Trallwng am gasglu neu ddychwelyd llyfrau cyn y Nadolig, fe'u cynghorir i ddefnyddio Llyfrgelloedd y Drenewydd neu Lanfyllin, neu Lyfrgell Gymunedol Llanfair Caereinion yn lle hynny: https://www.storipowys.org.uk/find-a-library?locale=cy

Mae e-lyfrau a llyfrau e-sain hefyd ar gael ar-lein: https://www.storipowys.org.uk/ebooks-eaudiobooks?locale=cy

 

Rhannwch y dudalen hon