Dweud eich dweud am wasanaethau bysiau lleol Powys
2 Ionawr 2025
Mae'r ymgynghoriad yn dilyn ymarfer ymgysylltu cychwynnol ar-lein, a chyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd ledled y sir, lle gwnaethom geisio adborth ar y rhwydwaith bysiau lleol presennol a dymuniadau ac anghenion defnyddwyr bysiau.
Gan ddefnyddio'r adborth a'r wybodaeth hon o gyfarfodydd gyda darparwyr bysiau a rhanddeiliaid eraill, datblygwyd cyfres o amserlenni bysiau diwygiedig. Mae'r ymgynghoriad yn eich galluogi i chwilio am yr amserlenni diweddaraf hyn a'u harchwilio yn eich ardaloedd dewisol. Er enghraifft, gallwch edrych ar y holl amserlenni o fewn yr ardal lle ry'ch chi'n byw a'r rhai yn yr ardal lle ry'ch chi'n gweithio, yn mynd i'r ysgol neu'n ymweld yn gymdeithasol.
"Allwch chi helpu i lunio dyfodol Rhwydwaith Bysiau Lleol Powys? Hoffwn glywed gan breswylwyr a defnyddwyr bysiau am yr amserlenni newydd arfaethedig." Eglurodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.
"Mae darparu rhwydwaith bysiau lleol effeithiol ac effeithlon ym Mhowys yn heriol oherwydd maint y sir a'r dwysedd poblogaeth isel y tu allan i bum tref graidd y Trallwng, y Drenewydd, Llandrindod, Aberhonddu ac Ystradgynlais.
"Rydym yn awyddus i weithio gyda defnyddwyr bysiau presennol a darpar ddefnyddwyr bysiau i ddeall y rhwystrau y maent yn eu hwynebu wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a chanfod cyfaddawdau ac atebion i wella'r amserlenni a phrofiad teithwyr. Rhowch ychydig o funudau a rhannwch eich meddyliau."
I ddweud eich dweud am yr amserlenni newydd arfaethedig ac agweddau eraill ar deithio ar fysiau, gan gynnwys prisiau tocynnau, ewch i: https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/ymgynghoriad-rhwydwaith-bysiau-lleol-powys
Y dyddiad cau i roi eich adborth i ni yw: 13 Chwefror 2025