Annog busnesau twristiaeth i ddweud eu dweud ar gynlluniau i godi treth ar ymwelwyr
2 Ionawr 2025
Mae Pwyllgor Cyllid Senedd Cymru yn ceisio barn fel rhan o'i waith craffu ar y Bil arfaethedig a fyddai, pe bai'n cael ei basio'n gyfraith, yn gweld cofrestr yn cael ei chyflwyno ar gyfer pob darparwr llety i ymwelwyr yng Nghymru. Byddai hefyd yn rhoi i gynghorau - fel Powys - y gallu i osod ardoll ymwelwyr (treth) a'r lleoedd y byddent yn aros fyddai'n gyfrifol am gasglu'r ardoll.
Gellir dod o hyd i'r ymgynghoriad ar wefan Senedd Cymru: https://senedd.cymru/pwyllgorau/y-pwyllgor-cyllid/ymgynghoriad-bil-llety-ymwelwyr-cofrestr-ac-ardoll-etc-cymru/
Neu drwy wefan Dweud Eich Dweud Powys: https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/
Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus, "Gallai deddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth Cymru arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol i'r sector twristiaeth ym Mhowys, felly rydym yn annog y rhai a fyddai'n cael eu heffeithio i gyfrannu at yr ymgynghoriad hwn, beth bynnag fo'u safbwynt,"
Bydd yr ymgynghoriad yn cau ddydd Gwener 10 Ionawr.