Prosiect 90k i wneud safle twristiaeth allweddol yn fwy hygyrch yn cael ei gwblhau
3 Ionawr 2025
Mae'r gwaith wedi cynnwys clirio coed a llystyfiant, creu llwybr dros y gwrthglawdd canoloesol nad yw'n achosi difrod, gyda rheiliau llaw a llwybr hollgynhwysol newydd i ymwelwyr gyrraedd ardaloedd eraill o'r parc y tu ôl i Ganolfan Clawdd Offa yn ddiogel.
Mae cysgodfan pren a phaneli dehongli hefyd wedi'u hadeiladu yn agos at y clawdd, ac mae'r toiledau y tu allan i'r ganolfan ymwelwyr, sydd wedi eu cau ers 2021, wedi eu huwchraddio.
Gwnaed y gwaith yn bosibl diolch i'r cyllid grant o 80% a sicrhawyd gan Wasanaeth Economi a Hinsawdd y cyngor sir gan Lywodraeth Cymru, fel rhan o'i gynllun Y Pethau Pwysig.
"Mae twristiaeth yn bwysig iawn i economi Powys felly, rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu'r asedau sydd gennym a gwneud ein sir hardd yn lle mwy deniadol i ymweld â hi," meddai'r Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus. "Rwy'n gobeithio y bydd llawer mwy o bobl nawr yn cael eu hannog i ddarganfod Clawdd Offa yn Nhref-y-clawdd."
Mae'r gwelliannau wedi'u rheoli gan Dîm Mynediad a Hamdden Cefn Gwlad y cyngor, a oedd hefyd yn darparu gweddill y cyllid.
"Mae'n wych y bydd y gwaith hwn yn caniatáu i ragor o bobl gael mynediad at ein hasedau gwledig a diwylliannol," meddai'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Wyrddach. "Mae gwneud hynny'n cynnig manteision iechyd a llesiant gwych i'n trigolion ac i ymwelwyr â Phowys ac yn ein helpu i godi ymwybyddiaeth o ba mor bwysig yw natur i'n targedau i leihau colledion natur erbyn 2030."
O dan gynllun Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru neilltuwyd £5 miliwn i wella seilwaith twristiaeth ar raddfa fach ledled Cymru ar gyfer 2023-25.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans: "Clawdd Offa yw un o lwybrau mwyaf hanesyddol Cymru ac rydym am sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau'r golygfeydd a'r hanes gwych y mae'r llwybr yn ei ddarparu.
"Mae nod cynllun Y Pethau Pwysig yn syml, i ariannu prosiectau bach sy'n cael effaith fawr ar brofiad ymwelwyr ac i'r cymunedau lleol. Mae Powys wedi derbyn cyllid prosiect a fydd yn gweld llawer o fanteision twristiaeth ledled y sir, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy o straeon cadarnhaol am y cynlluniau hyn ac eraill sy'n cael eu datblygu yng Nghymru, gan ddangos y manteision y mae cyllid cynllun Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru yn eu darparu."
Llwyddodd Cyngor Sir Powys i gael £300,000 o hyn, sy'n cael ei wario ar 10 prosiect sy'n cynnwys gwell mynediad, meysydd parcio, llwybrau, mannau gwefru cerbydau trydan, arwyddion a dehongli, ac uwchraddio toiledau mewn lleoliadau amrywiol.
Dim ond ar ôl ymgynghori'n agos â Cadw (gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru) y gwnaed y gwaith i wneud Clawdd Offa yn Nhref-y-clawdd yn fwy hygyrch i ymwelwyr.
Mae'n gofeb gofrestredig, sy'n golygu ei bod o bwysigrwydd cenedlaethol i Gymru ac wedi'i diogelu'n gyfreithiol rhag colli neu ddifrodi tystiolaeth archeolegol ac addasiadau anawdurdodedig.
Enwir Clawdd Offa ar ôl Offa, brenin Eingl-Sacsonaidd Mersia o 757 AD tan 796. Credir ei fod wedi gorchymyn ei adeiladu. Dyma heneb hynafol hiraf Prydain a gellir cael mynediad iddo drwy Lwybr Cenedlaethol 177 milltir, Llwybr Clawdd Offa.
Darganfod Llwybr Clawdd Offa: https://www.visitwales.com/things-do/adventure-and-activities/walking/offas-dyke-walks
Canolfan Clawdd Offa: https://www.visitwales.com/attraction/visitor-centre/offas-dyke-centre-518049
LLUN: Un o'r llwybrau newydd a grëwyd ym Mharc Clawdd Offa yn Nhref-y-clawdd.