Rheolwyr fflyd yn casglu gwobr genedlaethol
6 Ionawr 2025
Enwyd Tîm Rheoli Fflyd y cyngor yn Weithredwr Gwasanaethau Cyhoeddus y Flwyddyn yng Ngwobrau Cylchgrawn 'Logistics UK' 2024 a gynhaliwyd yn Llundain ym mis Rhagfyr.
Curodd y tîm gystadleuaeth gan y Clancy Group, Lothian Buses, Scottish Water a Tower Transit i ennill y wobr.
Cafodd Powys ei gydnabod ar ôl dod yn weithredwr cyngor sir a gweithredwr cerbydau nwyddau trwm cyntaf yng Nghymru i ddod yn aelod achrededig o Gynllun Cydnabyddiaeth y DVSA (Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau).
Mae'r cynllun hwn yn cydnabod sefydliadau sydd â chofnod diogelwch cerbydau a gyrwyr cadarn, ac sy'n rhannu data perfformiad yn rheolaidd gyda'r DVSA.
Cydnabuwyd Powys hefyd am helpu 20 o'i weithwyr i ddod yn rheolwyr trafnidiaeth cymwys.
"Llongyfarchiadau a da iawn i bawb sy'n gysylltiedig," meddai'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Wyrddach. "Rydym yn gwneud y peth iawn drwy flaenoriaethu diogelwch ein cerbydau a'n gyrwyr, ac mae ein buddsoddiad mewn hyfforddiant yn helpu i sicrhau cydnerthedd a sylfaen wybodaeth dda ar draws ein timau priffyrdd, gwastraff ac ailgylchu a thrafnidiaeth."
Ychwanegodd David Wells, Prif Weithredwr Logistics UK: "Dylai pawb sydd ar y rhestr fer am wobr fod yn falch iawn o'u cyflawniadau. Roedd y gystadleuaeth yn fwy ffyrnig nag erioed, gan gynhyrchu digon o 'sgyrsiau tanllyd' ymhlith y beirniaid, a gall ein holl enillwyr fod yn gwbl fodlon eu bod ar flaen y gad."
LLUN: Aelodau o Dîm Rheoli Fflyd Cyngor Sir Powys yn casglu eu gwobr (o'r chwith i'r dde): Rosie Stephens, Rachel Abbott, Calais Perry a John Forsey (Pennaeth Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Ailgylchu y cyngor erbyn hyn).