Cynlluniau wedi'u hariannu'n llawn ar gyfer y cyngor
9 Ionawr 2024
Er gwaethaf cynnydd o 3.3% yn y Grant Cynnal Refeniw gan Lywodraeth Cymru, mae'r cyngor yn wynebu diffyg ariannol o £22 miliwn yn ei gyllideb. Cynigir arbedion o £12.3m ynghyd â'r cynnydd yn nhreth y cyngor i sicrhau y gall y Cyngor gyflawni cyllideb gytbwys sy'n ofynnol yn gyfreithiol.
Dywedodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Cyllid a Thrawsnewid Corfforaethol, y Cynghorydd Sir David Thomas: "Er ein bod wedi gweld cynnydd yn ein darpar setliad llywodraeth leol gan Lywodraeth Cymru, y gwir amdani yw nad yw'n ddigon i bontio'r bwlch yn ein costau cynyddol.
"Mae'r cyngor yn parhau i wynebu galw cynyddol am wasanaethau, yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol. Mae chwyddiant prisiau, costau darparwyr a dyfarniadau cyflog cenedlaethol, gyda llawer ohonynt y tu hwnt i'n rheolaeth yn golygu bod y cyngor yn wynebu bwlch sylweddol yn y gyllideb ar gyfer 2025-26 ac am flynyddoedd lawer i ddod.
"Mae'n amlwg nad yw'r Cyngor yn ei ffurf bresennol yn gynaliadwy ar gyfer y tymor hwy, bydd ein rhaglen "Powys Gynaliadwy" yn sicrhau y gallwn parhau i fod yn sefydlog yn ariannol a darparu gwasanaethau cynaliadwy.
"Yn ein cyllideb ddrafft rydym yn ceisio cydbwyso'r angen i ddarparu gwasanaethau rheng flaen o fewn cyfyngiadau ariannol difrifol a'r gost gyffredinol i drethdalwr y cyngor. Rydym yn cymryd y camau hyn nawr i sicrhau y gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau gofal, ysgolion, priffyrdd a chymorth digartref i bobl Powys.
"Bydd yr arbedion cyllideb arfaethedig yn canolbwyntio ar drawsnewid ein gwasanaethau, cynyddu effeithlonrwydd, lleihau costau a chynyddu incwm. Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn rhai cynlluniau cyfalaf sy'n gwella asedau allweddol y cyngor i gefnogi darparu gwasanaethau statudol a chyflawni arbedion cyllidebol.
"Bydd Powys yn ymuno ag arweinwyr awdurdodau lleol Cymru i lobïo Llywodraeth Cymru i ddarparu cyllid ychwanegol drwy "lawr cyllido. Pe bai mecanwaith llawr cyllido yn cael ei weithredu, bydd y Cabinet yn ystyried gwelliannau i'r cynnig cyllideb yn dilyn y cynnydd mewn cyllid."
Bydd y Cabinet yn ystyried y gyllideb ddrafft mewn cyfarfod ddydd Mawrth 14 Ionawr ac os caiff ei gymeradwyo bydd cyfarfod o'r cyngor llawn yn ei ystyried ddydd Iau 20 Chwefror.