Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)

Cynnal a Chadw Ffyrdd Powys dros y Gaeaf

Image of a gritting lorry

10 Ionawr 2025

Image of a gritting lorry
Yn dilyn cyfnod o dywydd gaeafol a gyda rhagolygon y bydd yr amodau'n parhau'n oer am yr ychydig ddyddiau nesaf, mae'r gwaith o raeanu'r prif rwydwaith ffyrdd ledled Powys yn parhau.

Gan ddibynnu ar ragolwg manwl a data gan synwyryddion tymheredd, gwneir y penderfyniadau i aredig a graeanu ffyrdd Powys yn ôl yr angen, gyda chriwiau'n gwneud hyd at dri rhediad wedi'u trefnu yn ddyddiol ac yn parhau wrth gefn i ail-raeanu yn ôl y gofyn. Mae'r fflyd o raeanwyr yn gorchuddio dros 1,400km bob tro y byddant yn graeanu prif lwybrau'r sir.

Bob yn ail â graeanu ffyrdd, mae ein criwiau yn brysur yn trin llwybrau cerdded yng nghanol trefi, y tu allan i ysgolion, cartrefi gofal, canolfannau meddygol ac ati. Rydym hefyd yn canolbwyntio ar ailstocio ein cronfeydd wrth gefn o raean ac adnewyddu biniau halen ledled y sir cyn gynted â phosibl. 

"Bu'n wythnosau heriol gyda'r tywydd yn amrywio rhwng llifogydd ac amodau rhewllyd" eglurodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet Powys Wyrddach. 

"Mae criwiau wedi bod allan ar bob adeg ac ym mhob amod i drin a chlirio prif ffyrdd y sir yn ogystal â graeanu llwybrau yng nghanol ein trefi a thu allan i leoliadau hanfodol fel ysgolion a chyfleusterau meddygol.

"Mae'r rhagolwg ar gyfer y dyddiau nesaf yn parhau i fod yn rhewllyd, ac rydym yn bwriadu defnyddio staff o wasanaethau eraill lle bo modd i gynorthwyo criwiau'r priffyrdd gydag ail lenwi biniau a phentyrrau halen yn ardaloedd mwy gwledig y sir. 

"Tra bod amodau'r tywydd yn parhau'n oer, byddwch yn ofalus pan fyddwch y tu allan a chaniatáu amser ychwanegol ar gyfer teithiau."

Gallwch roi gwybod i ni os oes angen ailgyflenwi bin neu domen halen arlein yma: Riportiwch broblem gyda biniau halen, graeanu neu droedffyrdd

Dysgwch fwy am sut rydym yn trin ffyrdd yn ystod y gaeaf yma: Graeanu yn y Gaeaf

Yn ystod cyfnod o dywydd eithafol, byddwn yn aml yn darparu diweddariadau cyflym i'r cyhoedd drwy'r cyfryngau cymdeithasol. I gael y wybodaeth ddiweddaraf, gallwch ddilyn ein tudalennau Facebook yma:

Cyngor Sir Powys - https://www.facebook.com/cspowys/  

Powys County Council - https://www.facebook.com/powyscc/  

Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Ailgylchu Cyngor Sir Powys - https://www.facebook.com/PowysHighwaysTransportRecycling/  

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu