Ysgol Dôlafon
10 Ionawr 2025
Bydd Cyngor Sir Powys yn cefnogi Ysgol Dôlafon yn dilyn ei harolwg Estyn a gynhaliwyd ym mis Tachwedd.
Canfu Estyn fod yr ysgol yn gymuned ddysgu ofalgar lle mae staff yn annog disgyblion i groesawu ei hethos cefnogol a chyfeillgar yn effeithiol. Fodd bynnag, roedd arolygwyr o'r farn bod angen gwelliant sylweddol ar yr ysgol yn dilyn yr arolygiad.
Mae'r ysgol a'r cyngor wedi derbyn yr adroddiad a'r argymhellion, a fydd yn sail i gynllun gweithredu manwl ar y cyd i fynd i'r afael â meysydd allweddol y mae angen eu gwella.
Bydd yr ysgol a'i chorff llywodraethu yn gweithio gyda swyddogion y cyngor i adnabod y rhesymau dros ganlyniad yr arolygiad ac i gyflawni'r gwelliannau sy'n ofynnol. Bydd staff, disgyblion a rhieni yn cael cefnogaeth lawn yn ystod y daith wella.
Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Rydym yn cydnabod asesiad Estyn o Ysgol Dôlafon a'r meysydd a nodwyd i'w gwella. Mae'r adroddiad arolygu hwn yn rhoi canllawiau clir ar y camau angenrheidiol ar gyfer gwella.
"Rydym yn falch bod yr adroddiad yn cydnabod bod y pennaeth gweithredol newydd eisoes wedi dechrau proses o wella'r ysgol ond nad oes digon o amser wedi bod i gael effeithiau gweledol.
"Byddwn yn gweithio'n agos gydag uwch arweinwyr yr ysgol i weithredu'r newidiadau hyn wrth i ni ddechrau ar y daith wella hon a mynd i'r afael ag argymhellion Estyn."
Dywedodd Jon Hather, Cadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Dôlafon: "Mae llawer o bwyntiau cadarnhaol sydd wedi eu nodi gan Estyn yn ystod eu harolygiad ac mae'r rhain yn unol â'r blaenoriaethau a nodwyd gennym.
"Rydym yn derbyn yn llawn yr argymhellion sydd wedi'u cyflwyno gan Estyn i wneud y gwelliannau angenrheidiol. Mae'r llywodraethwyr yn hyderus y bydd y Pennaeth a staff yr ysgol yn gallu llawn osod y prosesau sydd wedi bod ar waith ers mis Medi a symud yr ysgol ymlaen i sefyllfa llawer cryfach."
I weld yr adroddiad arolygu, ewch i www.estyn.llyw.cymru