Gweld yr hysbysiad llawn

Rydym yn cael problemau gyda'n llinellau ffôn ar hyn o bryd.

Dweud eich dweud ar Strategaeth Adnoddau Cynaliadwy Ddrafft Powys

Image of an eRCV

10 Ionawr 2025

Image of an eRCV
Mae ymarfer ymgysylltu deuddeg wythnos wedi dechrau i geisio barn trigolion, cynghorwyr, sefydliadau partner a gweithleoedd ar Strategaeth Adnoddau Cynaliadwy Ddrafft Powys y cyngor.

Fel sir, mae gan Bowys eisoes hanes gwych o ailgylchu. Mae trigolion wedi croesawu'r system ailgylchu wythnosol o ymyl y ffordd ac wedi gweithio'n galed i sicrhau bod gwastraff cartref yn cael ei ailgylchu a'i droi'n adnodd gwerthfawr yn hytrach na'i daflu allan. Ond mae mwy y gallwn ei wneud bob amser i helpu'r amgylchedd a lleihau costau. Drwy'r ymarfer ymgysylltu hwn, rydym yn gobeithio clywed gan randdeiliaid am sut i gadw'r momentwm lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu i fynd. 

Mae Strategaeth Adnoddau Cynaliadwy ddrafft Powys (2025-2030) yn gynllun cynhwysfawr sydd â'r nod o greu dyfodol glanach, gwyrddach a mwy cynaliadwy i Bowys a chenedlaethau'r dyfodol. Mae'r camau gweithredu yn y strategaeth yn dilyn egwyddorion yr hierarchaeth wastraff i atal a lleihau gwastraff, hyrwyddo ailddefnyddio ac ailgylchu, a phontio tuag at economi gylchol. 

Pum prif nod y strategaeth yw: 

•    Lleihau, Ailddefnyddio, Atgyweirio: Atal cynhyrchu gwastraff, ymestyn hyd oes y cynnyrch, a hyrwyddo economi gylchol. 
•    Ailgylchu: Cyflawni a rhagori ar darged ailgylchu statudol Llywodraeth Cymru o 70%. 
•    Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi: Cynyddu cyfraddau ailgylchu ac ailddefnyddio mewn Canolfannau  Ailgylchu Gwastraff Cartrefi.
•    Ymwybyddiaeth a Gorfodaeth: Gwella sut mae gwastraff yn cael ei reoli a lleihau gweithgareddau anghyfreithlon fel tipio anghyfreithlon. 
•    Seilwaith: Datblygu a chynnal seilwaith i gefnogi mwy o ailgylchu a datgarboneiddio. 

"Wrth ddatblygu strategaethau, mae'n bwysig cynnwys ein rhanddeiliaid yn y broses." Eglurodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach.  

"Rydym yn arbennig o awyddus i ddarganfod sut mae pobl yn lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu eu gwastraff ar hyn o bryd. Hoffem wybod hefyd sut yr hoffai pobl gael eu cefnogi gan y cyngor i leihau mwy o'u gwastraff, ailddefnyddio mwy o eitemau ac ailgylchu mwy yn y dyfodol. 

"Mae hefyd yn bwysig ein bod yn darganfod a yw pobl yn cytuno â blaenoriaethau'r strategaeth ddrafft ac os oes unrhyw beth arall y gallai pobl ei awgrymu i helpu i leihau ein heffaith amgylcheddol, lleihau ein hôl troed carbon, symud tuag at economi gylchol gynaliadwy a sicrhau dyfodol gwyrddach i bawb.

"Gall pawb ohonom wneud gwahaniaeth cadarnhaol a bydd lleisiau ein rhanddeiliaid yn helpu i sicrhau bod y strategaeth yn glir, yn gynhwysfawr, yn ymarferol, ac yn cael ei chefnogi gan y gymuned ac yn dylanwadu ar benderfyniadau a darpariaeth gwasanaethau yn y dyfodol ledled Powys."

Yn dilyn yr ymarfer ymgysylltu, bydd y Strategaeth Adnoddau Cynaliadwy ddrafft yn cael ei diwygio'n unol â hynny a'i dychwelyd i'r cabinet i'w chymeradwyo.

I gymryd rhan yn yr ymarfer ymgysylltu a dweud eich dweud ar y Strategaeth Adnoddau Cynaliadwy ddrafft, ewch i: www.dweudeichdweudpowys.cymru/strategaeth-adnoddau-cynaliadwy-ddrafft-powys 

Y dyddiad cau i roi eich adborth i ni yw: 4 Ebrill 2025
 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu