Ysgol Robert Owen
14 Ionawr 2025
Mae Cyngor Sir Powys wedi gwneud symudiadau i dawelu meddyliau'r rhieni hynny, y mae eu plant yn mynychu Ysgol Robert Owen yn y Drenewydd, y byddai amgylchedd dysgu diogel bob amser yn cael ei gynnal yn yr ysgol.
Mae rhai ysgolion yn y sir, gan gynnwys Ysgol Robert Owen, wedi dechrau ar brosesau rheoli newid mewn ymateb i'r pwysau ariannol y maen nhw'n eu hwynebu.
Mae unrhyw reoli newid yn dilyn proses ffurfiol gyda chamau clir ac mae Ysgol Robert Owen yn y cam ymgynghori staff, sef cam cynnar o'r broses.
Wrth ddatblygu unrhyw strwythur staffio a chynllun cwricwlwm, byddai'r ysgol yn ystyried anghenion dysgwyr unigol a grwpiau o ddysgwyr ac ni fyddai unrhyw newidiadau yn peryglu diogelwch dysgwyr na staff.
Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Mae ysgolion ledled Cymru, fel cynghorau, yn wynebu pwysau ariannol sylweddol sydd angen cael eu rheoli.
"Er ein bod ni'n cynnig ychwanegu £7.3m ychwanegol at gyllidebau dynodedig ysgolion fel rhan o gynnig cyllideb y cyngor ar gyfer 2025/26, er mwyn bodloni pwysau cyflogau a gwariant, mae'n bosibl y bydd heriau penodol i gyllidebau ysgolion unigol.
"Yn sgil hyn, gofynnwn i arweinwyr ein hysgolion ystyried sut y maen nhw'n rheoli eu pwysau ariannol i sicrhau nad oes diffyg i'w cyllideb.
"Bydd cynnal amgylchedd dysgu diogel ar gyfer dysgwyr a staff yn ogystal â darparu'r Cwricwlwm i Gymru bob amser yn flaenoriaeth i ysgolion ledled y sir. Ni fyddai'r cyngor yn derbyn unrhyw newidiadau mewn ysgol a fyddai'n peryglu hyn.
"Mae'r cyngor yn cefnogi ysgolion drwy unrhyw broses rheoli newid i sicrhau eu bod yn gallu darparu'r cwricwlwm a chynnal amgylchedd dysgu diogel oddi fewn i'w hadnoddau."