Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)

Canolfan Chwaraeon Llandrindod

Image of youngsters football training in a sports hall

17 Ionawr 2025

Image of youngsters football training in a sports hall
Mae mesurau diogelwch ataliol wedi eu cynnal ar ganolfan chwaraeon yng nghanol Powys ar ôl i nam ar yr adeilad gael ei ddynodi, mae'r cyngor sir wedi dweud.

Mae'r diffyg yng Nghanolfan Chwaraeon Llandrindod wedi achosi i rannau o waliau gwaith maen allanol adeilad y neuadd chwaraeon wyro i ffwrdd o'r brif ffrâm strwythurol.

Gweithredodd Cyngor Sir Powys fesurau diogelwch ataliol ar unwaith yn gyflym i sefydlogi'r strwythur a lleihau'r risg o unrhyw symudiad pellach.

Mae'r ganolfan chwaraeon ar agor ac mae trefniadau mynediad arall wedi eu rhoi mewn lle.

Ar hyn o bryd, mae peirianwyr o'r cyngor yn cynnal ymchwiliad trylwyr i benderfynu ar achos y diffyg ac maen nhw'n gweithio'n ddiwyd i icrhau bod yr adeilad yn parhau i fod yn ddiogel i'w ddefnyddio yn ystod eu hymchwiliadau.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Diogel: "Rydym yn trin hyn yn gwbl ddifrifol i sicrhau bod y ganolfan a'i neuadd chwaraeon yn ddiogel i gwsmeriaid.

"Rydym yn gweithio gyda Freedom Leisure i weithredu trefniadau mynediad addas ar gyfer cwsmeriaid tra bo gwaith ymchwilio pellach yn cael ei wneud.

"Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi ond ein blaenoriaeth yw sicrhau bod yr adeilad yn ddiogel i aros ar agor i'r rhai sy'n ymweld â'r ganolfan chwaraeon hon ac yn ei defnyddio."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu