Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Os oes gennych Fy Nghyfrif Powys, cymerwch ran yn ein harolwg os gwelwch yn dda

Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys i graffu ar braesept arfaethedig yr heddlu

Image of Dyfed Powys Police and Crime Panel logo

21 Ionawr 2025

Image of Dyfed Powys Police and Crime Panel logo
Bydd praesept arfaethedig Heddlu Dyfed-Powys yn destun craffu yng nghyfarfod cyntaf Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn 2025.

Bydd aelodau'r Panel yn cyfarfod ddydd Gwener 24 Ionawr 2025 yn Neuadd y Sir yn Hwlffordd i drafod y praesept ac i herio'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn ynghylch ei gynlluniau cyllidebol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Mae'r panel yn cynnwys aelodau a enwebwyd gan y pedwar cyngor yn ardal yr heddlu a dau aelod annibynnol, ac mae ganddynt y pŵer i gymeradwyo neu roi feto ar braesept arfaethedig yr heddlu.

Ariennir plismona lleol gan grant y Swyddfa Gartref, yn ogystal â chyfraniadau cyhoeddus drwy'r Dreth Gyngor, a adnabyddir fel praesept yr heddlu.

Yn ystod y cyfarfod bydd Mr Llywelyn yn rhoi gwybod i'r panel am ganfyddiadau ymgynghoriad cyhoeddus diweddar ar gyllido'r heddlu.

Dywedodd Cadeirydd y Panel, yr Athro Ian Roffe:

"Fel Panel Heddlu a Throseddu, ein rôl ni yw craffu ar braesept arfaethedig Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i sicrhau bod ei gyllideb ariannol yn gytbwys ac yn briodol i wasanaethu cymunedau Sir Gaerfyrddin, Powys, Sir Benfro a Cheredigion. Rydym i gyd yn ymwybodol iawn o'r pwysau ariannol ar aelwydydd ac mae'n hynod bwysig, felly, bod Panel yr Heddlu a Throseddu yn ceisio sicrwydd bod unrhyw gynnydd mewn trethi preswylwyr yn adlewyrchu gwerth da am eu harian."

Ewch i www.panelheddluathroseddudp.cymru i gael rhagor o wybodaeth am y Panel, ei aelodaeth, dyddiadau cyfarfodydd sydd ar y gweill, agendâu a dolenni gweddarlledu, yn ogystal â chyflwyno cwestiynau i'r Panel eu rhoi gerbron y Comisiynydd.

Gellir cyflwyno cwestiynau ar-lein, neu'n ysgrifenedig drwy anfon neges e-bost at panelheddluathroseddudp@sirgar.gov.uk o leiaf 10 diwrnod cyn cyfarfod.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu