Mae prosiect Cadw'n Iach ym Mhowys yn fenter ar y cyd rhwng Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys sy'n anelu at wella iechyd a lles preswylwyr ledled y sir.
Mae'r digwyddiadau cymunedol galw heibio rhad ac am ddim hyn yn dod â llu o wasanaethau, sefydliadau ac adnoddau lleol ynghyd, i gyd yn un lle, i helpu pobl i gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt i fyw bywydau iachach a mwy cyflawn.
Yn ystod pob digwyddiad, gall preswylwyr:
Ddysgu mwy am wasanaethau iechyd a lles lleol, mentrau cymunedol, a'r cymorth sydd ar gael yn eu hardal.
Gysylltu â sefydliadau lleol a gweithwyr proffesiynol sy'n cynnig cymorth, cyngor a gweithgareddau ymarferol mewn amrywiaeth eang o feysydd. Gallwch archwilio gwasanaethau sy'n ymwneud ag iechyd a lles, cymorth i deuluoedd ac y blynyddoedd cynnar, atal syrthio, cymorth synhwyraidd a chlyw, diogelwch cymunedol, mentrau ailgylchu ac amgylcheddol, cymorth i ofalwyr a'r gymuned, effeithlonrwydd ynni, ffyrdd o fyw actif, tai a byw'n annibynnol, a chyngor penodol ar gyflyrau gan elusennau arbenigol.
Cymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngweithiol, mwynhau paned, a chael archwiliad iechydam ddim gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Mae'r digwyddiadau'n agored i bawb: O deuluoedd a gofalwyr i oedolion hŷn a grwpiau cymunedol, ac maent yn cynnig lle croesawgar a chyfeillgar i ddysgu mwy am sut i gadw'n iach ym Mhowys.
Mae'r sefydliadau sy'n cymryd rhan yn cynnwys: Cymysgedd o wasanaethau iechyd, gwasanaethau brys, elusennau lleol, darparwyr cyngor ar dai ac ynni, timau datblygu cymunedol, a phrosiectau lles o bob cwr o Bowys.
Hoffai eich sefydliad gymryd rhan? Mae cymryd rhan yn rhad ac am ddim. Cysylltwch â ni: healthprotection@powys.gov.uk
Dewch i ymuno â ni mewn digwyddiad Cadw'n Iach ym Mhowys sydd ar ddod a darganfyddwch y cymorth sydd ar gael i'ch helpu chi, eich teulu, a'ch cymuned i gadw'n iach ac yn dda.