Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Os oes gennych Fy Nghyfrif Powys, cymerwch ran yn ein harolwg os gwelwch yn dda

Gwaith i ddechrau ar gam nesaf Llwybr Teithio Llesol Treowen

Image of a cycle path sign

24 Ionawr 2025

Image of a cycle path sign

Bydd gwaith i ddechrau ar gam nesaf llwybr teithio llesol yn Nhreowen, y Drenewydd, yn dechrau ar ddiwedd y mis.
 
Wedi'i nodi yn dilyn ymgynghoriadau blaenorol ar Fapiau Rhwydwaith Teithio Llesol y sir, bydd y llwybr teithio llesol yn gwella'r llwybr ar hyd Heol Treowen, gyda'r cam diweddaraf hwn yn ymestyn o'r ardal ger cartref Nyrsio Bethshan i Ffordd Dolfor.
 
Bydd y palmant yn cael ei ledu i fod yn llwybr defnydd a rennir ar gyfer cerddwyr, teuluoedd â phlant ifanc mewn cadeiriau gwthio, defnyddwyr cadair olwyn a sgwteri symudedd a phlant ac oedolion ar feiciau. Bydd arwyneb y llwybr presennol yn cael ei wella a bydd mwy o ddiogelwch i bob defnyddiwr.

Wedi'i ariannu drwy Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, dyma gam nesaf cynllun mwy sy'n ceisio cysylltu â llwybrau teithio llesol eraill yn y dref.
 
"Nod Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yw gwneud Cymru'n genedl cerdded a beicio," eglurodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet dros Bowys Wyrddach. 
 
"Yn y bôn, mae hyn yn golygu ein bod yn ymdrechu i'w gwneud yn bosibl i ni i gyd wneud teithiau byr fel ein taith i ac yn ôl o'r gwaith, yr ysgol neu siopau lleol, drwy ddulliau corfforol egnïol, fel cerdded neu feicio.
 
"Yn dilyn ymgynghoriad a datblygiad Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol y sir a'r cyllid sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru, mae'n gyffrous gallu gweld cam arall o'r cynllun teithio llesol yn y Drenewydd yn dwyn ffrwyth.
 
"Disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn 31 Mawrth 2025. Byddwn yn ymdrechu i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl, gyda rheolaeth traffig yn ei le drwy gydol y prosiect. Hoffem ddiolch i bawb ymlaen llaw am eu hamynedd a'u cydweithrediad."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu