Dyfarniad yn nodi ymrwymiad y cyngor at hyfforddi a datblygu

28 Ionawr 2025

Mae'r cyngor hefyd yn buddsoddi yn natblygiad proffesiynol pellach ei staff AD (Adnoddau Dynol) ac DS (Datblygu Sefydliadol), drwy gyrsiau, cymwysterau ac aelodaeth CIPD (Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu).
Dim ond yr ail ddyfaniad a wnaed i gyngor sir yng Nghymru yw'r dyfarniad hwn gan CIPD ac mae'n nodi parodrwydd tîm Pobl y cyngor i ddarparu'r gefnogaeth orau bosibl i oddeutu 5,900 o weithwyr.
"Mae'n bwysig ein bod ni'n sicrhau bod gan ein gweithlu'r sgiliau a'r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni'r canlyniadau gorau posib i'n preswylwyr, busnesau a chymunedau, wrth i ni gynllunio ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy," meddai'r Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Cysylltu Powys, "ac i wneud hynny mae angen i ni gael y tîm Pobl gorau hefyd!
"Rydym yn sicrhau bod ein holl weithwyr yn cael mynediad at ystod eang o gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae hyn yn ein helpu i berfformio i safon uwch a denu recriwtiaid newydd mewn marchnad gystadleuol."
Mae'r cyngor yn defnyddio offer CIPD fel yr Offeryn Effaith Ar Bobl ac asesiadau hunan-ddiagnostig i wella sgiliau'r gweithlu a chefnogi cynllunio strategol.
Dywedodd Matt Gofton Rheolwr Atebion Cyflogwyr CIPD: "Drwy fuddsoddi mewn cymwysterau CIPD, aelodaeth, a datblygu proffesiynol parhaus, mae Powys wedi meithrin diwylliant sy'n canolbwyntio ar atebolrwydd a dysgu. Dros y tair blynedd diwethaf, mae staff wedi ennill amrywiol ardystiadau CIPD, ac mae cynlluniau ar gyfer mwy o brentisiaethau ac uwchraddio ardystiadau."
Mae Cyngor Sir Powys hefyd yn cyfrannu at rwydweithiau CIPD ac ymchwil, gan rannu gwybodaeth ac arferion gorau gyda chynghorau sir eraill.
Partneriaid Datblygu Pobl CIPD: https://www.cipd.org/uk/organisations/people-development-partners/#meet-our-people-development-partners
LLUN: Matt Gofton o CIPD (ar y chwith yn y blaen) a Paul Bradshaw, Pennaeth Pobl Cyngor Sir Powys (ar y dde yn y blaen) yn llofnodi cytundeb Partneriaeth Datblygu Pobl, gydag aelodau Tîm Pobl Cyngor Sir Powys yn gwylio.