Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Os oes gennych Fy Nghyfrif Powys, cymerwch ran yn ein harolwg os gwelwch yn dda

Ysgol Bro Hyddgen

Image of Ysgol Bro Hyddgen

30 Ionawr 2025

Image of Ysgol Bro Hyddgen
Mae'r cyngor sir wedi dweud y bydd tîm o uwch swyddogion addysg yn gweithio gydag ysgol ym Mhowys ar ôl i arolygwyr Estyn deimlo bod dal angen gwelliant sylweddol ar yr ysgol.

Bydd Cyngor Sir Powys yn cefnogi Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth yn dilyn ei arolygiad Estyn a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2024.

Cafwyd canmoliaeth i'r ysgol gan Estyn am ymddygiad cadarnhaol y disgyblion, gan dynnu sylw at yr awyrgylch parchus a chydweithredol sy'n meithrin dysgu effeithiol. Canmolwyd y ffocws ar les dysgwyr hefyd, gyda mentrau ar waith i gefnogi iechyd meddwl ac emosiynol myfyrwyr.

However, inspectors were of the opinion that the school is in need of significant improvement following the inspection.

Fodd bynnag, roedd arolygwyr o'r farn bod angen gwelliant sylweddol ar yr ysgol yn dilyn yr arolygiad.

Bydd yr adroddiad a'r argymhellion, a dderbyniwyd gan yr ysgol a'r cyngor, yn sail i gynllun gweithredu manwl ar y cyd i fynd i'r afael â meysydd allweddol y mae angen eu gwella.

Bydd swyddogion y Cyngor, yr ysgol a'i chorff llywodraethu yn cydweithio i ddynodi'r rhesymau dros ganlyniad yr arolygiad ac i gyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen. Bydd staff, disgyblion a rhieni yn cael eu cefnogi'n llawn yn ystod y daith tuag at welliant.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Rydym yn cydnabod yn llwyr ddisgrifiad Estyn o Ysgol Bro Hyddgen a'r meysydd ar gyfer gwelliant y maent wedi'u nodi. Mae'r adroddiad arolygu hwn yn rhoi arweiniad clir ar yr hyn sydd ei angen i sicrhau'r gwelliannau angenrheidiol.

"Byddwn yn gweithio'n agos gydag uwch arweinwyr yr ysgol i wneud i hyn ddigwydd wrth i ni ddechrau'r daith hon tuag at welliant gan ganolbwyntio ar yr argymhellion  a gyflwynwyd gan Estyn gan adeiladu ar gryfderau'r ysgol a mynd i'r afael â'r meysydd i'w gwella."

Dywedodd y Cynghorydd Elwyn Vaughan, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Bro Hyddgen: "Rydym yn falch o'r cryfderau a amlygwyd yn yr arolygiad, yn enwedig o ran ymddygiad a lles disgyblion. Rydym yn cymryd y meysydd i'w gwella o ddifrif ac rydym wrthi'n gweithredu mesurau i wella diogelwch y safle a gwella'r dilyniant addysgol rhwng cyfnodau."

"Mae'r gwelliannau arfaethedig yn adlewyrchu ein hymroddiad i greu amgylchedd dysgu diogel ac effeithiol. Byddwn yn gweithio'n ddiwyd i sicrhau bod Ysgol Bro Hyddgen yn parhau i ddarparu addysg a chymorth o ansawdd uchel i'n holl fyfyrwyr."

I weld yr adroddiad arolygu ewch i www.estyn.llyw.cymru

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu