Toglo gwelededd dewislen symudol

Dewis ailddefnyddio

Image of tables and chairs that may be reused

Mae'n hawdd rhoi ail fywyd i'ch eitemau dieisiau drwy eu rhoi i achos da:

 

Siopau Dewis Ailddefnyddio yn y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi

Ar y cyd â grwpiau cymunedol ac elusennau lleol, rydym yn bwriadu cyflwyno siopau ailddefnyddio ym mhob un o'n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi yn y dyfodol. Cyn bo hir, byddwch yn gallu rhoi a/neu brynu eitemau yn ystod eich ymweliad. Bydd yr holl eitemau a roddir yn cael eu gwerthu i helpu i godi arian ar gyfer achosion lleol.

Bydd rhagor o fanylion yn dilyn cyn bo hir.

 

Siopau elusennol a marchnadfa ar-lein

Mae'r sir yn llawn siopau elusennol sy'n fodlon derbyn rhoddion o eitemau dieisiau o ansawdd da. P'un a yw'n ddillad sy'n rhy fach i'r plant, hen lyfrau, teganau nas defnyddir, neu anrheg a gawsoch on ddim ei hangen, bydd rhywunyn hapus o fachu bargen yn ei siop elusen leol.

Dim siopau gerllaw? Mae dewisiadau eraill ar-lein bob amser fel Freegle.

 

Tîm atal a lliniaru digartrefedd Powys

Gan weithio ochr yn ochr â gwasanaeth glanhau Powys, mae tîm atal a lliniaru digartrefedd Powys yn chwilio am eitemau dieisiau y gellir eu hailgylchu er mwyn eu rhoi i bobl ym Mhowys sy'n agored i niwed neu'n llai breintiedig.

Cyn cyflwyno eich cynnig, dylech nodi'r canlynol:

  • Rhaid i bob eitem fod heb ei difrodi, yn gweithio'n iawn ac mewn cyflwr glân. (Ni allwn wneud unrhyw atgyweiriadau)
  • Rhaid i ddodrefn wedi eu clustogi fod â'r labeli diogelwch gwrth-dân gwreiddiol ynghlwm o hyd.
  • Nid ydym yn derbyn eitemau dodrefn gwydr, unedau wal/arddangos, desgiau, dreseli na byrddau gwisgo.
  • Gallwn ond derbyn poptai trydan, nid nwy.

Mae'r casgliad yn rhad ac am ddim ac mae'r amserlenni'n amrywiol. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01597 827396 neu e-bostiwch mobileservicesupport@powys.gov.uk

Rhoi rhodd Rhoi rhodd i'r cynllun ailgylchu ac ailddefnyddo. 

 

Cynllun Dodrefn Cymunedol Phoenix

Mae Phoenix yn elusen ddi-elw gofrestredig sydd wedi'i lleoli yn y Drenewydd. Byddant yn casglu dodrefn, nwyddau cartref ac eitemau trydanol a roddwyd gan y cyhoedd. Yna caiff y rhain eu glanhau a'u didoli cyn eu trosglwyddo i breswylwyr Powys sydd angen nwyddau cost isel.

Mae Phoenix yn casglu am ddim, ffoniwch 01686 623336 am ragor o wybodaeth.

 

Beth am atgyweirio eich eitemau sydd wedi torri?

Os yw'n bosibl, mae'n llawer gwell trwsio eitemau sydd wedi torri yn hytrach na chael rhai newydd yn eu lle.  Nid yn unig y mae'n ddewis mwy cynaliadwy ac ecogyfeillgar, ond mae fel arfer yn rhatach hefyd.

Gallwch ddefnyddio'r dolenni hyn i ddod o hyd i gyfeiriadur lleol o fusnesau sy'n cynnig gwasanaeth atgyweirio a chaffis atgyweirio cymunedol:

Y Cyfeiriadur Atgyweirio

www.repaircafewales.org Caffi Atgyweirio Cymru

 

Angen rhagor o wybodaeth? Cysylltwch â ni: waste.contracts@powys.gov.uk

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu