Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Bydd llinellau ffôn Treth y CyngoraDyfarniadau (budd-daliadau) ar gau ddydd Gwener 14 Mawrth oherwydd diweddariad i'r system.

Parth Atal Ffliw Adar Cymru Gyfan

Image of a chicken

5 Chwefror 2025

Image of a chicken
Mae'r cyngor sir am atgoffa perchnogion dofednod ym Mhowys i sicrhau eu bod wedi gwella eu mesurau bioddiogelwch i leihau ymlediad Ffliw Adar.

Y mis diwethaf (Ionawr), cyflwynodd Llywodraeth Cymru Barth Atal Ffliw Adar Cymru gyfan i ddiogelu dofednod ac adar caeth rhag Ffliw Adar Pathogenig Iawn (HPAI).

Bellach, mae Tîm Iechyd Anifeiliaid Cyngor Sir Powys yn atgoffa pawb sy'n cadw dofednod ac adar caeth eraill, ta beth yw maint y ddiadell neu sut y cedwir yr adar, bod y parth atal yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gymryd camau priodol ac ymarferol gan gynnwys:

  • Sicrhau bod yr ardaloedd lle cedwir adar yn anneniadol i adar gwyllt, er enghraifft, drwy rwydo pyllau a'r ardaloedd cyfagos a chael gwared ar ffynonellau bwyd adar gwyllt;
  • Bwydo a dyfrio diadellau mewn ardaloedd caeedig fel nad yw'n denu adar gwyllt;
  • Lleihau symudiadau pobl i mewn ac allan o ardaloedd adar;
  • Glanhau a diheintio esgidiau, defnyddio dipiau traed cyn mynd i mewn i ardaloedd dofednod, a chadw ardaloedd lle mae adar yn byw'n lân ac yn daclus;
  • Lleihau unrhyw halogiad sy'n bodoli eisoes drwy lanhau a diheintio ardaloedd concrit a ffensio ardaloedd gwlyb neu gorsiog;
  • Cadw hwyaid a gwyddau domestig ar wahân i ddofednod eraill;
  • Ni ddylid symud adar helgig gwyllt sydd wedi'u "dal" yn ystod y tymor agored am o leiaf 21 diwrnod, yn amodol ar amodau yn y datganiad.
  • Sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw yn unol â'r amodau yn y datganiad. Cwblhau'r rhestr wirio hunanasesu bioddiogelwch gorfodol o fewn 7 diwrnod. Er mwyn helpu i gadw adar yn rhydd o glefydau, rydym wedi creu dwy restr wirio hunanasesu bioddiogelwch ar gyfer ceidwaid dofednod masnachol a bach.

Bydd hefyd yn ofynnol i geidwaid sydd â mwy na 500 o adar gymryd mesurau bioddiogelwch ychwanegol, gan gynnwys cyfyngu mynediad i bobl nad ydynt yn hanfodol, newid dillad ac esgidiau cyn mynd i mewn i ardaloedd adar, a glanhau a diheintio cerbydau.

Rhaid i geidwaid hefyd fod yn wyliadwrus am arwyddion o glefyd. Mae ffliw adar yn glefyd hysbysadwy, a dylid rhoi gwybod i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar unwaith ar 0300 303 8268.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Diogel: "Er na chafwyd unrhyw achosion o ffliw adar pathogenig iawn wedi'u cadarnhau mewn dofednod neu adar eraill a gedwir yng Nghymru hyd yma y tymor hwn, mae nifer yr achosion mewn diadellau dofednod yn parhau i gynyddu ar draws Prydain Fawr ac mae risg uwch o drosglwyddo o adar gwyllt i adar sy'n cael eu cadw.

"Mae'r parth atal wedi'i chyhoeddi i leihau'r risg o haint gan adar gwyllt felly rhaid i ddofednod a cheidwaid adar caeth fod â'r mesurau bioddiogelwch priodol ar waith.

"Dylai ceidwaid dofednod fod yn wyliadwrus o unrhyw arwyddion o glefyd yn eu hadar neu unrhyw adar gwyllt a gofyn am gyngor prydlon gan filfeddyg os oes ganddynt unrhyw bryderon.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ffliw adar ar wefan Llywodraeth Cymru yn https://gov.wales/avian-influenza-bird-flu

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu