Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rydym yn cael problemau gyda'n llinellau ffôn ar hyn o bryd.

Disgyblion yn casglu dros dair tunnell o fatris mewn her ailgylchu

Image of pupils from Radnor Valley Primary School, winners of the 2024 battery recycling competition

6 Chwefror 2025

Image of pupils from Radnor Valley Primary School, winners of the 2024 battery recycling competition
Mae ysgolion ledled Powys wedi casglu dros dair tunnell o fatris cartref ar ôl cymryd rhan mewn her ailgylchu batris.

Roedd y gystadleuaeth yn agored i bob ysgol gynradd yn y sir ac yn annog disgyblion i gasglu hen fatris a dod â nhw i'r ysgol i'w hailgylchu. Rhwng mis Rhagfyr 2023 a mis Gorffennaf 2024, casglodd y 48 ysgol a gymerodd ran nifer syfrdanol o fatris rhyngddynt.

Gyda 6.03kg trawiadol o fatris fesul disgybl, daeth Ysgol Gynradd Dyffryn Maesyfed i'r brig ac maen nhw bellach yn dderbynwyr teilwng o daleb Amazon gwerth £300.

Aeth yr ail safle i Ysgol Dôlafon yn Llanwrtyd a fydd yn derbyn taleb Amazon gwerth £150 ar ôl casglu 4.04kg o fatris fesul disgybl. Bydd Ysgol Meifod yn derbyn taleb Amazon gwerth £50 am ddod yn drydydd ar ôl casglu 2.02kg o fatris fesul disgybl.

Noddwyd y gystadleuaeth gan y Platfform Ailgylchu Ewropeaidd (ERP UK), cynllun cydymffurfio'r cyngor ar gyfer gwastraff offer trydanol ac electronig a batris, a fu'n garedig iawn yn rhoi talebau Amazon i'r ysgolion buddugol.

Diolchodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Bowys Wyrddach i'r holl ysgolion a gymerodd ran yn yr her.

"Mae ailgylchu batris yn dda i'r amgylchedd gan fod hyn yn arbed adnoddau ac yn arbed ynni drwy leihau'r angen am ddeunyddiau crai newydd," eglurodd y Cynghorydd.

"Mae batris yn cael eu gwneud o fetelau ailgylchadwy gan gynnwys plwm, cadmiwm, sinc, lithiwm a mercwri. Mae pob batri wedi'i ailgylchu yn cael ei dynnu'n ddarnau a defnyddir y deunyddiau a adferwyd i wneud batris newydd ac eitemau eraill, yn hytrach na'u colli am byth.

"Mae plant yn aml yn wir eiriolwyr dros ailgylchu, ac mae'n galonogol gweld cymaint o ddisgyblion Powys yn dangos cymaint o frwdfrydedd ac ymrwymiad i'r gystadleuaeth hon. Mae eu parodrwydd i gasglu batris i'w hailgylchu yn rhoi gobaith i ni fod dyfodol ein hamgylchedd lleol yn nwylo diogel y genhedlaeth nesaf.

"Hoffem ddiolch i'r holl ysgolion a disgyblion a gymerodd ran yn y gystadleuaeth a helpodd i ailgylchu dros dair tunnell o fatris. Wrth gwrs, rhaid llongyfarch Ysgol Gynradd Dyffryn Maesyfed am ennill y gystadleuaeth."

Daeth Jenny Turner, Rheolwr Cyfrifon Rhanbarthol ERP UK, draw i gwrdd â Phwyllgor Eco yn Ysgol Gynradd Dyffryn Maesyfed a chyflwyno'r wobr fuddugol.  "Mae ERP UK yn falch iawn o weld bod ysgolion yn parhau i gymryd rhan frwd yn y gystadleuaeth ailgylchu batris. Roedd yn bleser cyfarfod â'r plant a fu'n helpu eu hysgol i gasglu'r nifer fwyaf o fatris a'u clywed yn siarad mor frwd am ailgylchu. Rydym yn hynod falch o arwyr ailgylchu Powys ac yn edrych ymlaen at weld pa mor dda maen nhw'n ei wneud yn y gystadleuaeth nesaf." 

Llun: James Thompson, o Dîm Ymwybyddiaeth Gwastraff Cyngor Sir Powys a Jenny Turner o'r Platfform Ailgylchu Ewropeaidd (ERP UK) yn cyflwyno'r daleb Amazon gwerth £300 i'r Pwyllgor Eco yn Ysgol Gynradd Dyffryn Maesyfed.
 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu