Partïon Stryd a Dathliadau 80 mlwyddiant Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop

7 Chwefror 2025

Mae Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yn nodi diwedd y rhyfel yn Ewrop a'r Ail Ryfel Byd yn ei gyfanrwydd ar 8 Mai, ac eleni yw'r 80fed pen-blwydd. Anogir cymunedau i fwynhau moment o ddathlu a rennir drwy ddod at ei gilydd a choffáu'r diwrnod hanesyddol hwn mewn digwyddiadau a gynhelir rhwng dydd Iau 8 Mai a dydd Sul 11 Mai.
Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet dros Bowys Wyrddach: "Byddai gwneud cais i gau ar gyfer parti stryd fel arfer yn denu ffi weinyddol ond mae'r cyngor unwaith eto wedi penderfynu hepgor y ffi i helpu cymunedau i ddathlu'r digwyddiad hanesyddol pwysig hwn.
"Byddem yn annog pawb i ddod at ei gilydd a chynllunio partïon stryd hwyliog i ddathlu 80 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop. Mae'r eiliadau hyn o ddathlu a rennir yn ffyrdd gwych o gadw'r atgofion yn fyw, talu teyrnged i'r rhai a fu'n ymwneud â'r Ail Ryfel Byd a chreu cymunedau cryf a bywiog."
I gael rhagor o wybodaeth am gymryd rhan yn nathliadau Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop, ewch i www.veday80.org.uk
Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i drefnu parti stryd cymunedol yma - Eich canllaw i drefnu parti stryd - GOV.UK
Er mwyn prosesu ceisiadau ar gyfer partïon stryd a chau ffyrdd dilynol mewn pryd, rhaid i unrhyw unigolyn neu grŵp sy'n bwriadu cynnal digwyddiad cymunedol ar briffordd gyhoeddus ym Mhowys roi gwybod i'r cyngor erbyn 13 Mawrth 2025.
Gellir cael ffurflen gais a gwybodaeth bellach drwy gysylltu ag Adran Draffig y cyngor drwy anfon e-bost at traffic@powys.gov.uk