Pam fod Asesiad Lles yn cael ei wneud?
Translation Required:

Gall Gwasanaethau Plant ddod yn ymwybodol o'r plentyn drwy adroddiadau a wneir iddynt gan;
- Aelod o'r cyhoedd
- Gweithiwr proffesiynol
- Hunan-Atgyfeiriad gan y teulu neu'r unigolyn
Wrth wneud penderfyniad ar ôl yr adroddiad, byddwn yn ystyried yr holl wybodaeth a'r gwaith cyfredol gyda'r plentyn a'i deulu. Gallai'r penderfyniad cychwynnol benderfynu y dylid asesu anghenion y plentyn am ofal a chymorth o dan Asesiad Lles.
Diben yr Asesiad Lles yw gweld a oes angen help ar blentyn a pha fath o help sydd ei angen arno. Rhaid i Wasanaethau Plant asesu anghenion datblygiadol y plentyn, os oes unrhyw anawsterau neu anghenion amgylcheddol gan rieni a darganfod pa ganlyniadau y mae'r plentyn a'u rhieni/gofalwyr am eu cyflawni
Dylai'r Asesiad Lles ystyried a all darparu gofal a chymorth, defnyddio gwasanaethau ataliol, neu gael gwybodaeth a chyngor eich helpu i gyrraedd eich nodau.
Mae proses yr asesiad yn ymwneud â sicrhau bod buddiannau a lles gorau'r plentyn yn cael eu diwallu a bod plant yn cael eu diogelu.