Cronfa gelfyddydau yn atal cwmni opera a theatr rhag mynd i'r wal

10 Chwefror 2025

Roedd Opera Canolbarth Cymru yn un o 10 sefydliad a fanteisiodd ar ddyfarniadau a weinyddwyd gan Wasanaeth Celfyddydau a Diwylliant Cyngor Sir Powys yn 2024, ar ôl sicrhau cefnogaeth gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Derbyniodd y cwmni bron i £76,000 i ddrafftio cynllun busnes newydd a dod o hyd i ffynonellau cyllid newydd ar ôl i'w gymorth oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru - tua 60% o'i incwm - gael ei dorri. Mae'r Gymdeithas bellach wedi sicrhau gwerth dwy flynedd o gyllid gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.
Hefyd, mae'r cwmni a leolir yn y Drenewydd a Chaersws wedi derbyn cefnogaeth gan rai o'i noddwyr ac yn gobeithio sicrhau mwy o gefnogaeth, gwerth £25,000 y flwyddyn, i'w gadw ar y lôn yn y dyfodol: https://www.midwalesopera.co.uk/support/keep-mid-wales-opera-on-the-road/
Y sefydliadau eraill a gefnogwyd gan y cyngor fel rhan o'r prosiect gwerth £675,000, a ariannwyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, yn ystod y naw mis diwethaf oedd:
- CARAD (Celfyddydau Cymunedol Rhaeadr Gwy a'r Cylch): https://carad.org.uk/
- Neuadd Gregynog: https://gregynog.org/cy/
- Impelo: https://www.impelo.org.uk/?locale=cy
- Canolfan Celfyddydau'r Canolbarth: https://midwalesarts.org/home/?lang=Cy
- Peak Cymru: https://www.peakcymru.org/
- Gŵyl Llanandras: https://presteignefestival.com/
- The Lost ARC: https://thelostarc.co.uk/?lang=cy
- Y Neuadd Les Ystradgynlais: https://yneuaddlesystradgynlais.cymru/
- Canolfan Celfyddydau Glannau Gwy: https://www.wyeside.co.uk/
"Mae'r grant celfyddydau a gawsom gan y cyngor wedi bod yn gwbl drawsnewidiol," meddai Richard Studer, Cyfarwyddwr Opera Canolbarth Cymru, "ar ôl colli ein cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru, roeddem yn meddwl mai ein taith yn yr hydref gyda Pagliacci fyddai ein taith olaf ac y byddem yn dod â'r cwmni i ben.
"Mae wedi bod yn achubiaeth i ni. Mae wedi ein galluogi i ailstrwythuro ein model busnes, ail-ysgrifennu ein cynlluniau busnes a gwirioneddol sicrhau ein dyfodol, gan edrych ymlaen, gyda rhywfaint o amser, i roi bywyd i Opera Canolbarth Cymru.
"Gallwn nawr edrych ymlaen at ddyfodol o berfformio opera a theatr byw ledled Cymru!"
Ychwanegodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys Fwy Diogel: "Mae'n wych ein bod ni wedi gallu helpu'r 10 sefydliad celfyddydol hyn ym Mhowys i ddod yn fwy cynaliadwy ac yn achos Opera Canolbarth Cymru, wedi ei arbed rhag mynd i'r wal.
"Mae'r sector yn darparu gwaith i lawer o bobl ac mae ganddo hefyd rôl i'w chwarae wrth gefnogi lles ein trigolion a gwneud Powys yn lle mwy deniadol i fyw ynddi."
Dyfarnwyd y £675,000 i'r Gwasanaeth Celfyddydau a Diwylliant gan Fwrdd Partneriaeth Leol Cronfa Ffyniant Gyffredin Powys, a gefnogir gan Wasanaeth Economi a Hinsawdd y cyngor.
LLUN: Golygfa o gynhyrchiad teithiol Opera Canolbarth Cymru o Pagliacci yn hydref 2024, yr oedd y cwmni ar y pryd yn credu oedd ei gynhyrchiad olaf. Llun: Matthew Williams-Ellis/Opera Canolbarth Cymru