Freedom Leisure yn cipio dwy Wobr Bwysig Nofio Cymru

13 Chwefror 2025

Mae'r gwobrau mawreddog hyn, a drefnir gan Nofio Cymru, y Corff Llywodraethu Cenedlaethol cydnabyddedig ar gyfer gweithgareddau dŵr yng Nghymru, yn cydnabod ac yn dathlu ysbryd anhygoel gweithgareddau dŵr trwy arddangos angerdd, ymroddiad a chyflawniad rhagorol unigolion, grwpiau a sefydliadau.
Mae Freedom Leisure yn rheoli canolfannau hamdden yng Nghymru ar ran cynghorau ym Mhowys, Wrecsam ac Abertawe ac mae ganddo dros 12,000 o nofwyr ar ei raglen Dysgu Nofio Cymru gyda thîm medrus iawn o hyfforddwyr nofio yn addysgu plant ac oedolion i ddysgu 'sgil bywyd' nofio.
Dywedodd Ivan Horsfall Turner, Prif Swyddog Gweithredol Freedom Leisure; "Rydym yn hynod falch o ennill y gwobrau hyn a hoffwn eu cyflwyno i'm holl gydweithwyr sy'n darparu rhaglen ardderchog o wersi nofio bob wythnos ym mhob un o'n pyllau nofio ledled Cymru."
Parhaodd Ivan; "Rydym yn falch iawn o groesawu dros 800,000 o ymweliadau â'n pyllau nofio bob blwyddyn ac rydym yn falch o gael dros 12,000 o gyfranogwyr ar ein Rhaglen Dysgu Nofio Cymru. Mae cael partneriaeth gref gyda Nofio Cymru yn ein galluogi i ddarparu profiad gwych i blant ac oedolion, gan gefnogi eu twf mewn hyder gyda sgil bywyd sy'n arwain at fwynhad, diogelwch a hwyl yn y dŵr, yn enwedig yn ein hardaloedd arfordirol fel yn Abertawe.
"Mae'r wobr 'Menter Gynaliadwyedd y Flwyddyn' yn dangos bod Freedom Leisure wedi gosod meincnod newydd ar gyfer cynaliadwyedd yn y sector hamdden trwy ei gamau gweithredu a'i fuddsoddiadau sylweddol parhaus mewn effeithlonrwydd ynni a thrwy fod y sefydliad hamdden cyntaf i ddod yn Sefydliad Llythrennedd Carbon achrededig.
Dywedodd Angela Brown, Pennaeth Cynaliadwyedd ac Amgylcheddol Freedom Leisure sy'n priodoli cyfran sylweddol o'r llwyddiant i gyfranogiad ac ymrwymiad Cynghorau Powys, Wrecsam ac Abertawe; "Cwblhawyd ychydig dros £1,000,000 o brosiectau effeithlonrwydd ynni a thechnoleg carbon isel yn 2024 ledled Cymru. Gwnaed yr ymyriadau hyn yn bosibl trwy geisiadau cyllid llwyddiannus, perthynas waith gref gyda'n partneriaid cyngor a'n buddsoddiadau ein hunain.
Mae Angela'n parhau; "Mae hyn yn arddangos ein hymrwymiad i gynaliadwyedd, yn ogystal â'n partneriaid cyngor, a'n dull rhagweithiol ar y cyd o leihau allyriadau carbon. Hoffem ddiolch i bob un ohonynt am eu hymdrechion diwyro i gefnogi'r prosiectau hyn a'u gwireddu."
"Trwy ganolbwyntio ar gynaliadwyedd, rydym nid yn unig yn lleihau allyriadau carbon ond hefyd yn creu arbedion costau gweithredol hirdymor, y gellir eu buddsoddi mewn rhaglenni cymunedol a gwelliannau i gyfleusterau gan sicrhau bod ein canolfannau hamdden yn parhau i ffynnu.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys Mwy Diogel: "Hoffwn longyfarch Freedom Leisure ar eu llwyddiant yng Ngwobrau Blynyddol Nofio Cymru 2025. Mae ennill dwy wobr genedlaethol yn newyddion gwych ac rydym wrth ein bodd gyda'u llwyddiant.
"Ynghyd â Freedom Leisure, rydym yn gweithio i wella cydraddoldeb iechyd a lles trwy weithgarwch corfforol tra'n gwneud ein canolfannau hamdden yn wyrddach ac yn lleoedd gwell i ymweld â nhw a gweithio ynddynt. Mae llwyddiant y gwobrau hyn yn gymeradwyaeth enfawr o'n partneriaeth."
Ymunodd cydweithwyr â Phrif Swyddog Gweithredol Freedom Leisure, Ivan Horsfall Turner yn y seremoni ar 1 Chwefror 2025 yng Nghaerdydd. Mae pob un ohonynt yn gweithio yn y canolfannau hamdden ar draws Cymru, gan ddangos angerdd ac ymrwymiad y sefydliad i ddatblygu gweithgareddau dŵr yng Nghymru.