A yw eich plant yn y math cywir o sedd car?
![Image of the car seat height chart, school pupils and road safety officers](/image/23128/Image-of-the-car-seat-height-chart-school-pupils-and-road-safety-officers/standard.jpg?m=1739442733700)
13 Chwefror 2025
![Image of the car seat height chart, school pupils and road safety officers](/image/23128/Image-of-the-car-seat-height-chart-school-pupils-and-road-safety-officers/gi-responsive__100.jpg?m=1739442733700)
Diolch i waith Swyddogion Diogelwch Ffyrdd y cyngor, mae'r siartiau uchder newydd hyn wedi eu cynhyrchu a'u gosod yn arbennig i alluogi rhieni a gofalwyr i weld yn gyflym ac yn hawdd beth yw taldra eu plant ac i helpu i benderfynu pa sedd car y dylent fod yn ei defnyddio'n gyfreithlon.
Rhaid i bob plentyn, o'i enedigaeth hyd at 12 mlwydd oed (neu 135cm o uchder, pa un bynnag sy'n dod gyntaf) ddefnyddio sedd car addas, wedi'i gosod yn gywir wrth deithio yn y rhan fwyaf o gerbydau. Mae'r math o sedd car yn dibynnu ar oedran a phwysau neu uchder y plentyn. I blant ysgol gynradd, y peth hawsaf i'w gofio yw os yw plentyn o dan 125cm o uchder, rhaid iddo ddefnyddio sedd car uchel ei gefn gyda harneisiau tri neu bum pwynt neu amddiffyniad yn erbyn gwrthdrawiad. Rhaid i blentyn dros 125cm o uchder fod yn eistedd ar glustog hybu, gyda chefn uchel os oes modd, nes iddo fod yn 12 mlwydd oed neu dyfu i dros 135cm o daldra.
Rhaid i yrwyr gofio, os yw'r plentyn yn eistedd yn sedd flaen y car mewn sedd car plentyn sy'n wynebu'r cefn, yna, yn ôl y gyfraith, rhaid diffodd y bagiau awyr blaen i deithwyr.
Unwaith y bydd y plentyn yn ddigon hen ac yn ddigon tal i stopio defnyddio seddi ceir, mae'n hanfodol bwysig o hyd sicrhau bod y plant yn eistedd ac yn gwisgo gwregys yn ddiogel, gan sicrhau eu bod yn wynebu tua'r blaen gyda'u cefn yn erbyn y sedd a'u traed ar y llawr, a bod y gwregys diogelwch ar eu cluniau (nid abdomen) ac ysgwydd (nid gwddf).
"Mae ein Swyddogion Diogelwch Ar y Ffyrdd wedi'u hyfforddi i roi cyngor i rieni, gofalwyr a gyrwyr ar ba fathau o seddi ceir i'w defnyddio yn dibynnu ar oedran ac uchder y plentyn a byddant yn hapus i wirio i sicrhau bod y sedd wedi'i gosod yn gywir ac yn ddiogel." Eglurodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach a'r Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Diogel a llywodraethwr yn Ysgol Gymraeg Y Trallwng. "Yn ogystal â chynnig hyfforddiant diogelwch ar y ffyrdd, maen nhw hefyd yn cynnal digwyddiadau dros dro mewn mannau fel canolfannau hamdden, archfarchnadoedd, ysgolion ac ati lle gallwch alw i mewn i wirio sedd eich car wrth i chi aros.
"Mae'r siartiau uchder newydd y mae'r tîm prysur wedi bod yn eu gosod ym mhob un o'n hysgolion cynradd yn ffordd ragorol arall i rieni a gofalwyr wirio'n hawdd pa mor dal yw eu plant a phenderfynu'n gyflym pa fath o sedd car y dylent fod yn ei defnyddio'n gyfreithlon i'w cadw'n ddiogel.
"Cofiwch mai cyfrifoldeb y gyrrwr yw sicrhau bod pawb dan 14 oed mewn sedd car addas a/neu'n gwisgo gwregys diogelwch pan fyddant yn eich car. Os fydd angen unrhyw gyngor arnoch, bydd Tîm Diogelwch Ffyrdd Powys yn hapus i helpu, anfonwch e-bost atynt: road.safety@powys.gov.uk."
I gael rhagor o wybodaeth am Dîm Diogelwch Ar y Ffyrdd Cyngor Sir Powys, ewch i: Gofyn am hyfforddiant diogelwch ar y ffyrdd
I gael rhagor o wybodaeth am y gyfraith a seddi ceir i blant, ewch i: Child car seats: the law
Llun: Disgyblion Ysgol Gymraeg Y Trallwng yn y Trallwng yn helpu'r swyddogion diogelwch ffyrdd, Jim Campbell a Rob Griffith, i sicrhau bod yr arwydd newydd ar yr uchder cywir, fel bod rhieni'n gallu sefyll eu plant yn erbyn y siart uchder a gweld pa sedd car y dylent fod yn ei defnyddio i gadw'n ddiogel.