Toglo gwelededd dewislen symudol

Newidiadau yn y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi

Image showing someone booking a time slot to visit a recycling centre on their phone

14 Chwefror 2025 

Image showing someone booking a time slot to visit a recycling centre on their phone
O 1 Ebrill 2025, bydd newid i'r ffordd yr ydym ni oll yn defnyddio Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi, sy'n cynnwys archebu slot amser ar gyfer eich ymweliad a thalu swm bychan i gael gwared ar wastraff DIY.
 
Archebu ymweliad 
 
O 1 Ebrill 2025 ymlaen, bydd angen i breswylwyr drefnu amser i ymweld ag unrhyw un o'n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi. Gellir gwneud hyn yn gyflym ac yn hawdd arlein neu dros y ffôn. 
 
Yn ychwanegol at leihau costau, mae'r system archebu ar gyfer y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi wedi'i chyflwyno i: 
 
•    leihau tagfeydd ac amseroedd ciwio 
•    gwneud ymweliadau'n haws ac yn llai llafurus 
•    rhoi mwy o amser i staff helpu ymwelwyr a allai fod angen cyngor a/neu gymorth ar y safle 
•    gwella cyfraddau ailgylchu 
•    lleihau defnydd annilys gan weithredwyr masnachol a defnyddwyr o'r tu allan i'r sir 
 
Dilynwch y cyfarwyddiadau arlein i archebu amser yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi o'ch dewis. Bydd angen i breswylwyr roi eu henw, cyfeiriad, cyfeiriad ebost a rhif cofrestru'r cerbyd y byddant yn ei ddefnyddio ar gyfer eu hymweliad.  
 
Gellir archebu amser dros y ffôn hefyd drwy ffonio: 01597 827465 
 
Bydd preswylwyr yn gallu archebu eu slot cyntaf ar gyfer ymweliadau ar ôl 1 Ebrill, o 25 Mawrth 2025. 

"Er gwaethaf rhywfaint o gyhoeddusrwydd negyddol yn ardaloedd awdurdodau lleol eraill lle mae systemau archebu wedi'u cyflwyno'n ddiweddar, mae adborth a gasglwyd mewn arolygon i breswylwyr yn cadarnhau bod preswylwyr yn hapus iawn â'r system unwaith mae popeth wedi setlo." Esbonia'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach. "Mewn gwirionedd, mewn arolwg diweddar gan gyngor yng Ngogledd Cymru, dywedodd 81% o breswylwyr fod y system archebu newydd yn ardderchog ac roedd 83% o blaid cadw'r drefn yn ei lle." 

"Mae newid bob amser yn her i ddechrau. Cyn bo hir, bydd yn ail natur a bydd cofio archebu slot amser ymlaen llaw yn gwneud eich ymweliad â'r ganolfan ailgylchu gwastraff cartrefi yn fwy effeithlon gan wybod bod gennych eich slot eich hun i ailgylchu eich gwastraff gyda chymorth y staff, os oes angen."
 
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth a set lawn o gwestiynau cyffredin arlein: Canolfannau Ailgylchu
 
Gwastraff DIY 
 
O 1 Ebrill 2025, os yw preswylwyr am gael gwared ar wastraff DIY yn unrhyw un o'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi, bydd angen iddynt dalu ffi fechan. 
 
Mae gwastraff o unrhyw waith DIY neu welliannau i gartrefi yn cael ei ystyried yn wastraff diwydiannol, nid gwastraff cartrefi (gwastraff a grëir wrth redeg aelwydydd o ddydd i ddydd). Nid oes rheidrwydd ar Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi i dderbyn gwastraff diwydiannol. 
 
Fodd bynnag, rydym yn deall, o ganlyniad i welliannau DIY bach mewn cartrefi, y gall preswylwyr gynhyrchu'r math hwn o wastraff, ac felly byddwn yn ei dderbyn yn y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi, gyda ffi fechan i dalu costau trin a gwaredu. 
 
"Rydym yn gwerthfawrogi nad oes croeso byth i ffioedd, ond bydd hyn yn sicrhau y gallwn barhau i dderbyn ychydig o wastraff DIY o'ch prosiectau gwella'r cartref a pharhau i fforddio cadw pob un o'r pum Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi ar agor bum diwrnod yr wythnos." Ychwanegodd y Cynghorydd Charlton. 
 
"Nid yw'r taliadau wedi'u cyflwyno i wneud elw ac maent wedi'u cadw mor isel â phosibl." 
  
Bydd angen i breswylwyr dalu yn ystod eu hymweliad â'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi cyn cael gwared ar eu gwastraff DIY. 
 
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth a set lawn o gwestiynau cyffredin arlein: Canolfannau Ailgylchu 
 
Ailddefnyddio 
 
Ar y cyd â grwpiau cymunedol ac elusennau lleol, rydym yn bwriadu cyflwyno siopau ailddefnyddio yn y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi yn y dyfodol lle bo gwagle'n caniatáu hynny. Cyn bo hir, byddwch yn gallu rhoi a/neu brynu eitemau yn ystod eich ymweliad. Bydd yr holl eitemau a roddir yn cael eu gwerthu i helpu i godi arian ar gyfer achosion lleol. 
 
Cytunwyd ar gyflwyno system archebu a thaliadau am wastraff DIY yn ôl ym mis Chwefror 2024 fel rhan o strategaeth ariannol tymor canolig y cyngor 2024-2029.   

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu