Beth y gellir ei ailgylchu yn y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi?

Gallwch ailgylchu'r eitemau canlynol am ddim yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi:
- Offer trydanol bach a mawr
- Oergelloedd a rhewgelloedd
- Batris
- Cetris argraffydd
- Bylbiau golau a thiwbiau fflworoleuol
- setiau teledu a monitorau
- Poteli a jariau gwydr
- Metel sgrap
- Gwastraff gardd
- Tecstilau
- Dodrefn
- Caniau
- Poteli a thybiau plastig
- Plastig caled, fel teganau neu ddodrefn gardd
- Plastigion meddal, fel bagiau siopa a deunydd lapio
- Cartonau
- Papur
- Cardfwrdd
- Paent
- Olew coginio
- Batris ceir
- Cemegion cartref
- Carpedi
- Matresi
- Olew injan wedi'i ddefnyddio
O 1 Ebrill: Codir tâl bach am waredu'r eitemau gwastraff DIY canlynol:
- Rwbel a phridd (un bag yr ymweliad am ddim)
- Plastrfwrdd
- Pren a choed (un bag yr ymweliad am ddim)
- fframiau ffenestri a drysau uPVC
- Ffenestri a gwydr drws
- Offer ystafell ymolchi a chegin, megis baddonau, toiledau, sinciau ac ati
- Deunydd inswleiddio
- Ffelt toeau
- Gosodiadau plastig, fel bibellau i lawr, gwter, estyll tywydd ac ati
- Nid ydym yn derbyn asbestos
I gael rhestr lawn o'r hyn y gellir ac na ellir ei ailgylchu a'i gymryd i'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi, edrychwch ar ein canllaw ailgylchu A-Y canllaw ailgylchu A-Y
Cofiwch y bydd angen i chi archebu slot amser ar gyfer eich ymweliad.
Pethau i'w cofio cyn eich ymweliad:
- Lle bynnag y bo'n bosibl, defnyddiwch y casgliadau ailgylchu ymyl y ffordd wythnosol ar gyfer:
- Plastig, caniau a chartonau
- Papur a cherdyn
- Poteli a jariau gwydr
- Bwy
- Ystyriwch a allai eich eitemau dieisiau gael ail fywyd? Dysgwch fwy am ddewis ailddefnyddio.
- O 1 Ebrill 2025 ymlaen, bydd angen i chi dalu i gymryd gwastraff DIY i'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma. Os ydych yn cynllunio clirio tŷ neu brosiect adeiladu/DIY mawr, byddai llogi sgip gan gwmni gwastraff ag enw da yn fwy priodol
- Cyn cyrraedd y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi, rhaid gwahanu'r holl ddeunyddiau yn barod i'w hailgylchu'n gywir yn y cynwysyddion ailgylchu cywir.
- Gwrthodir unrhyw fagiau neu focsys o ddeunyddiau cymysg, heb eu didoli.
- Rhaid i eitemau sy'n cyrraedd y ganolfan gael eu hailgylchu'n gywir. Dim ond fel dewis olaf y dylech daflu unrhyw beth i ffwrdd mewn sgip sbwriel gweddilliol/cyffredinol a rhaid defnyddio sgip ar gyfer eitemau na ellir eu hailgylchu yn unig.
- Os nad ydych yn siŵr ym mha gynwysyddion i ailgylchu eich eitemau yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi, siaradwch ag aelod o staff a fydd yn hapus i helpu.
- Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas wrth ymweld â'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi.
- Rhaid i blant ac anifeiliaid anwes aros yn eich cerbyd bob amser.
Ni allwn dderbyn unrhyw wastraff nac ailgylchu o ffynonellau nad ydynt yn gartrefi (busnes neu sefydliadau) yn unrhyw un o'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi. I gael manylion am sut i waredu gwastraff masnachol yn gyfreithlon, cysylltwch ag Ailgylchu Masnachol Powys.
Angen rhagor o wybodaeth? Cysylltwch â ni: waste.contracts@powys.gov.uk