Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rydym yn cael problemau gyda'n llinellau ffôn ar hyn o bryd.

Cwestiynau ac Atebion ynghylch Cysylltu Bywydau

Shared lives FAQ's

A allaf fod yn ofalwr Cysylltu Bywydau os oes gennyf gyflwr iechyd hirdymor?

Yr hyn sy'n bwysig yw a ydych yn gallu ymdopi'n gorfforol ac yn seicolegol â'r gofynion o gefnogi rhywun arall. Bydd eich iechyd yn cael ei ystyried wrth wneud cais i fod yn ofalwr Cysylltu Bywydau ac ystyrir unrhyw gyflyrau hirdymor.

A allaf fod yn ofalwr Cysylltu Bywydau os oes gennyf anifeiliaid anwes?

Ymhell o fod yn rhwystr o fod yn ofalwr Cysylltu Bywydau, gall anifeiliaid anwes fod yn ased a helpu pobl i fagu hyder. Mewn gwirionedd, mae gan gymaint o ofalwyr Cysylltu Bywydau anifeiliaid anwes, rydym yn ystyried ei fod yn rhan o fod â natur ofalgar a hoffi llond tŷ!

Mae pob anifail yn wahanol, a bydd eich anifeiliaid anwes yn cael eu cynnwys yn eich asesiad gofalwr - gan edrych ar bethau megis eu natur a'u hymddygiad. Fel perchennog anifail anwes, mae angen i chi hefyd feddwl sut y bydd eich anifail anwes yn ymateb i rywun newydd yn eich cartref.

A all fy mhartner ddod yn ofalwr Cysylltu Bywydau hefyd?

Gall! Mae bod yn ofalwr Cysylltu Bywydau yn agored i bawb, boed yn sengl, mewn partneriaeth sifil, yn briod, yn heterorywiol, LGBTQIA+, beth bynnag yw eich hil neu grefydd.

Gallwch fynd drwy asesiad fel gofalwr sengl neu fel asesiad ar y cyd fel pâr.

Fel arfer mae prif ofalwr Cysylltu Bywydau, ac os yw ar gael, gallwch wneud cais gyda gofalwr Cysylltu Bywydau cymorth - efallai eich plentyn arall sy'n oedolyn, aelod arall o'r teulu sy'n oedolyn neu ffrind sydd am eich cefnogi, gelwir hyn yn asesiad cyswllt teuluol. Gall y rhain fod yn opsiynau seibiant gwych.

Bydd gan bob unigolyn rydych yn ei gefnogi fywyd sy'n mynd y tu hwnt i'ch cartref.

Allwn i fod yn rhy ifanc neu'n rhy hen? A yw'n iawn bod yn sengl, bod â phlant, neu fod yn byw gyda rhywun?

Gall unrhyw un dros 18 oed wneud cais i fod yn ofalwr Cysylltu Bywydau p'un ai ydych chi'n sengl, mewn perthynas, â phlant, neu'n byw ar eich pen eich hun. A chyn belled â'ch bod yn ddigon heini ac iach, nid oes terfyn oedran uchaf ar gyfer gofalwyr Cysylltu Bywydau. Mae angen i'r ddau bartner mewn pâr wneud cais a mynychu hyfforddiant hyd yn oed os mai un ohonynt fydd y prif ofalwr.

A oes angen cymwysterau penodol arnaf i fod yn ofalwr Cysylltu Bywydau?

Nac oes. Mae bod yn ofalwr Cysylltu Bywydau yn ymwneud mwy â'ch parodrwydd i gefnogi a chynnwys rhywun yn eich cartref a bywyd cymunedol.

Pan fyddwch yn paratoi i fod yn ofalwr Cysylltu Bywydau byddwch yn derbyn hyfforddiant i'ch helpu chi a'ch teulu i nodi ac adeiladu ar y sgiliau sydd gennych eisoes a datblygu unrhyw sgiliau newydd y gallai fod eu hangen arnoch.

Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i chi gwblhau Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan, i'ch cefnogi yn eich rôl Cysylltu Bywydau.

Sut ydw i'n cyfarfod â'r unigolyn y byddwn yn ei gefnogi?

Ar ôl i chi gael eich cymeradwyo, bydd eich Swyddog Cynllun Cysylltu Bywydau yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn rhoi gwybod i chi os oes gennym rhywun addas posibl sy'n cydweddu.

Pan fyddwch yn dod o hyd i rywun sy'n cydweddu o bosibl, mae'n union fel dod i adnabod unrhyw un newydd - cwrdd am baned, mynd am dro, neu gael rhywbeth i'w fwyta. Yna, os yw'r ddau ohonoch yn hapus, gall yr unigolyn ymweld am ychydig oriau, ac yna aros dros nos, cyn i'r ddau ohonoch benderfynu ai dyna'r cyfatebiad cywir i chi.

Beth fydd yn cael ei ofyn i mi yn ystod y broses gwneud cais?

Bydd y cynllun am sicrhau bod gennych y rhinweddau cywir i fod yn ofalwr Cysylltu Bywydau ac eisiau gwybod mwy amdanoch. Pam ydych chi eisiau gweithio gyda phobl sydd angen cymorth? A oes gennych y gallu i'w grymuso, cyfathrebu â nhw, eirioli ar eu rhan a'u cynnwys fel rhan o'ch teulu? Ydych chi'n fodlon gweithio fel rhan o dîm, datblygu eich sgiliau a'ch rhinweddau drwy hyfforddiant a dysgu a meddu ar y gwydnwch i aros yn gryf mewn cyfnodau anodd?

A fydd bod yn ofalwr Cysylltu Bywydau yn effeithio ar fy morgais neu denantiaeth?

Mae pobl sy'n byw mewn trefniadau Cysylltu Bywydau yn derbyn cytundeb trwydded nad yw'n cynnig yr un hawliau â thenantiaeth sicr. Felly, er y gall trefniadau Cysylltu Bywydau fod yn hir-barhaol, nid oes gan bobl sy'n byw mewn trefniadau Cysylltu Bywydau unrhyw hawliad ar eiddo gofalwr Cysylltu Bywydau Lives ac ni ddylent effeithio ar eich morgais.

Yn achos seibiannau tymor byr, gwestai dros dro yw'r unigolyn ac ni ystyrir mai tŷ'r gofalwr yw ei gartref parhaol.

Fel gofalwr Cysylltu Bywydau, a fyddaf yn cael seibiant â thâl?

Byddwch, os ydych chi'n cefnogi rhywun yn y tymor hir, mae'r Cytundeb Gofalwr a Chynllun yn datgan y byddwch yn derbyn 28 noson o seibiant/seibiannau byr bob blwyddyn. Mae hyn yn sicrhau bod yr unigolyn rydych chi'n ei gefnogi yn cyfarfod â phobl newydd ac yn cael profiadau newydd; mae'n iach i bawb gael amser ar wahân a chymryd seibiant.

Bydd y tîm Cysylltu Bywydau yn helpu i gydlynu'r seibiannau hyn o ddechrau eich trefniadau. Mae hyn yn cynnwys trafod gyda'r unigolyn lle mae'n dymuno cael ei seibiant a chynnwys ei weithiwr cymdeithasol i archwilio opsiynau seibiant byr, gan sicrhau eu bod yn cael dewis.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu