Cefnogaeth gan y cyngor a gan y Dreigiau!

21 Chwefror 2025

Llwyddodd Stashed Products, gwneuthurwyr systemau storio beiciau sy'n arbed gofod, i sicrhau £25,000 gan y cyngor tuag at y gost o wneud gwelliannau yn ei ganolfan yn Abermiwl ac ar gyfer hyfforddi staff, gyda'r nod o greu tair swydd llawnamser yn 2024. Bellach, mae'r perchennog Elliot Tanner wedi cael cynnig buddsoddiad gan Ddraig hefyd.
Gwyliwch bennod neithiwr o'r rhaglen deledu ar BBC iPlayer: https://www.bbc.co.uk/programmes/m00284yj
Dywedodd Elliot: "Roedd camu i mewn i'r Denyn un o'r profiadau mwyaf pwerus i mi erioed ei gael. Aeth fy meddwl yn wag fel roeddwn i'n camu trwy ddrysau'r lifft, a phrin y gallwn gofio fy enw fy hun. Fodd bynnag, ar ôl dechrau, dechreuais fwynhau'r holl brofiad yn fawr.
"Mae'r gefnogaeth rydw i wedi'i chael gan Gyngor Sir Powys wedi bod yn rhan annatod o'n llwyddiant ac mae cael cynigion buddsoddi gan bedwar Draig yn teimlo fel ardystiad gwirioneddol o bopeth rydyn ni'n ei wneud yn Stashed Products."
Roedd Stashed Products yn un o 71 o gwmnïau a gafodd grantiau twf busnes gan Gyngor Sir Powys gwerth ychydig llai nag £1 miliwn y llynedd.
Rhoddodd y £25,000 a gafodd tuag at osod lloriau mesanîn, gweithfannau, ac ystafell farchnata a manwerthu ac ar gyfer stacio a chasglu offer.
Dywedodd Elliot wrth wneud cais am y grant: "Mewn llai na thair blynedd, rydym wedi datblygu SpaceRail - systemau storio beiciau sy'n arwain yn y farchnad ac amrywiaeth o ategolion. Rydym wedi ehangu ein ffatri yng Nghymru ac mae ein cynnyrch yn cael ei ddefnyddio i greu mannau beicio delfrydol ar draws y byd. Mae SpaceRail yn ffasiynol, yn arloesol ac yn gadarn a gellir dod o hyd iddo mewn lleoliadau diwydiant o weithdai prysur i frandiau beic cydnabyddedig."
Mae'r Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys Mwy Ffyniannus, wedi'i blesio gan lwyddiant Stashed Products mewn cyfnod mor fyr.
Dywedodd: " Mae'n braf gweld bod busnes o Bowys sydd wedi'i gefnogi gan y cyngor gyda grant twf, a gan Lywodraeth Cymru gyda chyllid ymchwil, datblygu ac arloesi, wedi mynd ymlaen i gael ei gefnogi gan fuddsoddwyr uchel eu parch."
Os oes gennych gwestiwn am ddatblygiad economaidd ym Mhowys, anfonwch e-bost at: economicdevelopment@powys.gov.uk neu ewch i wefan y cyngor i weld pa gymorth sydd ar gael i fusnesau nawr: Busnesau
Gellir cael gafael ar help hefyd drwy Busnes Cymru: https://businesswales.gov.wales/cy
Roedd Grantiau Twf Busnes Powys ar gael i helpu i ariannu cynlluniau cyfalaf a phrosiectau refeniw untro, ond nid costau rhedeg cyffredinol, ac fe'u gweinyddwyd gan Wasanaeth Economi a Hinsawdd y cyngor.
LLUN: Elliot Tanner o Stashed Products yn Abermiwl yn rhoi ei araith i'r Dreigiau ar Dragons' Den.