"Mae'n ymwneud â'r perthnasoedd a'r cysylltiadau sydd eu hangen ar bobl ifanc i ffynnu."

24 Chwefror 25

Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU gyda chynlluniau i ddileu elw o ofal preswyl a gofal maeth i blant.
Y llynedd, arhosodd 85 y cant o bobl ifanc sydd â gofalwyr maeth awdurdod lleol yn eu hardal. Fodd bynnag, dim ond 31 y cant o bobl ifanc sydd mewn gofal asiantaethau maethu masnachol a arhosodd yn lleol, gyda 7 y cant yn cael eu symud y tu allan i Gymru yn gyfan gwbl.
Cafodd Sophia Warner, 29, ei rhoi mewn gofal maeth am y tro cyntaf yn ddwy flwydd oed ac roedd mewn gofal parhaol erbyn ei bod yn wyth oed.
Er ei bod yn dweud bod ei bywyd cynnar yn anhrefnus, yn ystod y cyfnod hwn gwnaeth ddarganfod ei chariad tuag at gelf.
Fel rhan o ymgyrch newydd Aros yn Lleol, mae wedi cynhyrchu paentiad sy'n symbol o'r effaith y mae'r system gofal maeth wedi'i chael arni hi a'i theulu. Dywedodd Sophia y gall gofal maeth awdurdodau lleol helpu i gynnal perthynas rhwng brodyr a chwiorydd, ac yn ei barn hi ddylai fod yn flaenoriaeth.
Meddai Sophia; "Bydd Aberhonddu wastad yn teimlo fel cartref i mi, oherwydd dyna lle wnes i gymaint o atgofion hapus gyda fy mrodyr a chwiorydd. I mi, roedd aros yn lleol mewn gofal maeth yn golygu aros gyda fy mrodyr a chwiorydd.
"Yn y diwedd cawsom i gyd ein gwahanu a'n gwasgaru ar draws Cymru.
Roedd yr effaith emosiynol o'r gwahanu hynny yn enfawr. Byddai wedi gwneud gwahaniaeth mawr i gael fy mrodyr a'm chwiorydd gerllaw.
"Gall cynnal cysylltiadau â'ch cymuned, eich ysgol a'ch amgylchedd cyfarwydd helpu i leddfu rhywfaint o'r newid hwnnw, ond wrth wraidd hynny, mae'n ymwneud â'r perthnasoedd a'r cysylltiadau sydd eu hangen ar bobl ifanc i ffynnu yn enwedig gyda'u brodyr a'u chwiorydd."
Yng Nghymru, mae dros 7,000 o blant yn y system ofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth sydd i gael. Ar hyn o bryd mae 224 o blant sy'n derbyn gofal ym Mhowys gyda 70 o blant angen gofalwyr maeth i ofalu amdanynt yn agosaf i adref.
Mae Maethu Cymru Powys yn galw ar fwy o bobl i fod yn ofalwyr maeth gyda'r awdurdod lleol, ac yn annog y sawl sy'n maethu ar hyn o bryd gydag asiantaeth ddi-elw i drosglwyddo i dîm eu hawdurdod lleol.
Mae'r gofalwyr maeth Emma a Dan, sydd wedi newid o asiantaeth annibynnol, yn egluro'r gwahaniaeth a brofwyd trwy faethu gyda'r awdurdod lleol.Dywed.
Emma a Dan, sy'n ofalwyr maeth ym Mhowys: "Wnaethon ni ddechrau maethu trwy asiantaeth, ond wnaethon ni newid i faethu gyda'r Awdurdod Lleol cwpl o flynyddoedd yn ôl Ein bwriad oedd canolbwyntio ein hymdrechion ar weithio i wasanaeth yn hytrach na busnes, a dyna'r teimlad oedd gennym am ein hasiantaeth.
"Roedd yn bwysig inni deimlo naws agosrwydd cryfach, a gweithio ochr yn ochr â'n hawdurdod lleol yn ein cymuned leol.
"Yn ein rôl fel gofalwyr maeth, rydym wedi gweld ein hunain, pa mor bwysig yw i bobl ifanc sy'n derbyn gofal aros yn agos at eu cartref, ysgol a rhwydweithiau cymdeithasol.
"Mae angen gofalwyr maeth ar yr awdurdodau lleol er mwyn gwireddu hyn, a'n gobaith yw bod yn rhan o'r ateb, i fod yn rhan o dîm a gwasanaeth ehangach sy'n maethu gyda naws teuluol a chymunedol.
"Ar ôl 14 mlynedd fel gofalwyr maeth, rydym yr un mor angerddol ag erioed; rydym yn eiriolwyr brwd ar ran y plant a'r bobl ifanc, ac yn cael hyd i ffyrdd newydd bob dydd i gael ein hannog, bod yn awyddus ac yn hynod fodlon gyda'n gwaith."
Mae Maethu Cymru Powys yn annog mwy o bobl fel Emma a Dan i agor eu cartrefi i helpu meithrin dyfodol gwell ar gyfer plant lleol mewn angen.
Yn ôl y Cyng. Sandra Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol: "Mae nifer fawr o fuddion yn gysylltiedig â bod yn Ofalwr Maeth gyda'r cyngor lleol - o gefnogaeth a hyfforddiant i naws cymunedol, ond yn anad dim, yr opsiwn i'r bobl ifanc aros yn ein sir ni.
"Os hoffech ddysgu rhagor am Faethu gyda'r Cyngor, croeso ichi gysylltu â ni i gael sgwrs anffurfiol."
Am ragor o wybodaeth ynglyn â maethu, a sut i drosglwyddo i Faethu Cymru Powys os ydych chi'n maethu'n barod, ewch i:
Gwefan:https://powys.maethucymru.llyw.cymru/
Ffôn: 0800 22 30 627
Ebost:fostering@powys.gov.uk