Dathlu Dydd Gŵyl Dewi

1 Mawrth 2025

Oeddech chi'n gwybod bod gan Gyngor Sir Powys, ynghyd â phob cyngor arall yng Nghymru, ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod pob preswylydd yn gallu derbyn gwasanaethau yn Gymraeg?
Rydyn ni'n croesawu'r Gymraeg ym mhopeth a wnawn, mae'n rhan o bwy ydyn ni. Rydyn ni'n gweithio i hyrwyddo'r Gymraeg, ei gwneud yn haws ei defnyddio, a'i thrin yn gyfartal i'r Saesneg. Rydyn ni'n gwneud hyn yn y gwasanaethau cyhoeddus a ddarparwn, y polisïau a wnawn ac yn ein gwaith mewnol.
Os nad ydych chi'n gwneud yn barod, beth am ychwanegu ychydig o ymadroddion Cymraeg i'ch diwrnod i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi? Cyfarchwch eich ffrindiau, cymdogion, a chydweithwyr yn Gymraeg. Dyma ychydig o ymadroddion i'ch rhoi chi ar ben ffordd:
- S'mae / Shwmae! - Hi! How's things?
- Iawn - Fine
- Bore da - Good morning
- Prynhawn da - Good afternoon
- Hwyl - Bye
Dywedodd y Cynghorydd Sandra Davies, Aelod Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol: "Mae'r Gymraeg yn drysor y gallwn ni i gyd ei rannu. Beth am gofleidio'r iaith ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni? Gall hyd yn oed y mymryn lleiaf o Gymraeg, fel helo neu hwyl fawr, fynd yn bell.
"Oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu Cymraeg neu ydych chi'n adnabod rhywun sydd eisiau dysgu? Beth am ddechrau heddiw? Gyda chyrsiau drwy'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a sefydliadau eraill, mae llawer o gyfleoedd ar gael i ddechrau arni."
Gallwch ddod o hyd i gwrs sydd orau i chi yma, neu ar gyfer cwrs blasu ar-lein am ddim, cliciwch yma i ddechrau arni.
Byddwn yn lansio ein Strategaeth Hybu'r Gymraeg cyn bo hir sy'n nodi sut y byddwn yn hyrwyddo'r Gymraeg a'i gwneud yn haws i'w defnyddio ledled Powys. Felly, cadwch lygad yma am fwy o wybodaeth. Gallwch hefyd gael gwybod mwy am sut rydym yn defnyddio'r Gymraeg yn ein gwaith bob dydd