Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rydym yn cael problemau gyda'n llinellau ffôn ar hyn o bryd.

Digwyddiadau 'Cadw'n Iach' ym Mhowys

'Keeping Healthy in' Powys events

3 Mawrth 2025

'Keeping Healthy in' Powys events
 Mae digwyddiadau lles cymunedol am ddim yn cael eu cynnal ar draws Powys, meddai'r cyngor sir.

Fel rhan o fenter ar y cyd rhwng Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, mae prosiect 'Cadw'n Iach' ym Mhowys yn dod â gwasanaethau ac adnoddau lleol ynghyd, gyda'r nod o gryfhau cymunedau a rhoi'r dewisiadau a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar unigolion i fyw bywydau iachach, mwy boddhaus.

Gyda nifer o sefydliadau ar gael mewn un lle, mae'r digwyddiadau wedi'u cynllunio i gynyddu ymwybyddiaeth; addysgu cymunedau am wasanaethau, mentrau ac adnoddau ar gyfer iechyd a lles sy'n addas i'w hanghenion, ac sy'n cysylltu cymunedau; hyrwyddo perthnasoedd ymhlith preswylwyr, annog rhwydweithio, cydweithio, ac ymdeimlad cryfach o gymuned ledled Powys.

Bydd y digwyddiadau yn rhad ac am ddim ac yn cael eu cynnal yn:

  • Ystradgynlais -Dydd Iau 6 Mawrth 2025, 10yb-3:30yp, Y Neuadd Les, Ystradgynlais, SA9 1JJ
  • Y Trallwng -Dydd Iau 13 Mawrth 2025, 10yb-4:30yp, Neuadd y Dref, Y Trallwng, SY21 7JQ
  • Llandrindod -Dydd Iau 20 Mawrth 2025, 10yb-4:30yp, Y Pafiliwn, Llandrindod, LD1 5EY

Meddai'r Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Powys Mwy Diogel: "Mae'n hanfodol ein bod yn cynnal digwyddiadau fel y rhain, fel y gallwn barhau i gefnogi ein cymunedau, darparu'r adnoddau cywir, a helpu i ddod â phobl ynghyd, gan roi cyfle i breswylwyr weld pa wasanaethau sydd ar gael, nad ydynt efallai'n ymwybodol ohonynt.

"Mae'r digwyddiadau hyn yn rhad ac am ddim i'w mynychu, felly beth am ichi alw heibio'r un agosaf ac archwilio beth sydd ar gael i chi?"

Mae'r rhai sydd eisoes yn cymryd rhan yn y digwyddiadau yn cynnwys, PAVO, Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, Cymru Gynnes, Gofal a Thrwsio Powys, Cymdeithas Alzheimer Cymru a mwy.

Gall sefydliadau sy'n dymuno cymryd rhan gofrestru am ddim drwy ebostio healthprotection@powys.gov.uk

Am fwy o wybodaeth, ewch i https://cy.powys.gov.uk/digwyddiadaulles

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu