Parthau rheoli afiechyd yn ymestyn i Bowys ar ôl i achos o ffliw adar gael ei gadarnhau yn Swydd Henffordd

6 Mawrth 2025

Mae achos o ffliw adar Pathogenig Iawn H5N1 wedi ei gadarnhau ar safle ger Kington, Swydd Henffordd.
Mae Defra wedi datgan parthau rheoli clefydau 3km a 10km o amgylch y safle, er mwyn cyfyngu ar y risg o ledaenu clefydau. Mae rhan o'r parth gwarchod 3km a'r parth gwyliadwriaeth 10km a ddatganwyd gan Defra a Llywodraeth Cymru yn ymestyn i Bowys.
O fewn y parth hwn, cyfyngir ar symudiadau a chynulliadau adar a rhaid datgan pob daliad sy'n cadw adar.
Mae Tîm Iechyd Anifeiliaid Cyngor Sir Powys bellach yn rhybuddio perchnogion adar Powys o fewn y Parth Gwarchod 3km a'r Parth Gwyliadwriaeth 10km ehangach i gydymffurfio â'r mesurau a nodir yn y Gorchymyn Datganiad.
Mae perchnogion adar y tu allan i'r parth gwarchod a'r parth gwyliadwriaeth yn cael eu hatgoffa y bydd y Parth Atal Ffliw Adar (AIPZ) yn parhau mewn grym ledled Cymru hyd nes y clywir yn wahanol.
Mae hyn yn golygu bod rhaid i bob ceidwad adar yng Nghymru (p'un a oes ganddynt adar anwes, haid fasnachol neu iard gefn) barhau i gadw at y mesurau bioddiogelwch gorfodol hyd nes y clywir yn wahanol, a chwblhau'r rhestr wirio hunanasesu bioddiogelwch gorfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet dros Bowys Ddiogelach: "Mae'n hanfodol bod ceidwaid adar yn parhau i fod yn wyliadwrus ac yn sicrhau bod ganddyn nhw'r lefelau bioddiogelwch uchaf yn eu lle.
"Mae hefyd yn bwysig nad yw pobl yn cyffwrdd nac yn codi unrhyw adar sy'n sâl neu wedi marw er mwyn osgoi lledaenu'r firws.
"Mae'r cyngor iechyd cyhoeddus yn parhau bod y risg i iechyd pobl o'r firws yn isel iawn ac mae cyrff safonau bwyd yn cynghori bod ffliw adar yn peri risg diogelwch bwyd isel iawn i ddefnyddwyr y DU."
Cyfrifoldebau pobl sy'n cadw adar:
- Dylai pawb sy'n cadw adar fod yn wyliadwrus am arwyddion o'r clefyd, fel mwy o farwolaethau, trallod anadlol, bwyta ac yfed llai, neu gynhyrchu llai o wyau.
- Cysylltwch â'ch milfeddyg yn y lle cyntaf os yw'ch adar yn sâl.
- Os ydych chi neu'ch milfeddyg yn amau y gallai ffliw adar fod yn achosi salwch yn eich adar, mae'n rhaid i chi, yn ôl y gyfraith, adrodd am hyn i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Bydd hyn yn sbarduno ymchwiliad i'r clefyd gan filfeddygon APHA.
Rhaid i chi ddefnyddio mesurau bioddiogelwch llym i atal unrhyw ddeunyddiau, offer, cerbydau, dillad, bwyd anifeiliaid neu ddillad gwely a allai fod wedi'u halogi gan adar gwyllt rhag dod i'ch safle.
Os byddwch yn dod o hyd i adar y dŵr gwyllt wedi marw (elyrch, gwyddau neu hwyaid) neu adar gwyllt marw eraill, fel gwylanod neu adar ysglyfaethus, dylech roi gwybod amdanynt i linell gymorth Defra ar 03459 33 55 77.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffliw adar, ewch i: https://www.llyw.cymru/ffliw-adar-0