Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rydym yn cael problemau gyda'n llinellau ffôn ar hyn o bryd.

Newidiadau i'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi: y ffeithiau

Image showing someone booking a time slot to visit a recycling centre on their phone

7 Mawrth 2025

Image showing someone booking a time slot to visit a recycling centre on their phone
 Ceir manylion llawn am system archebu newydd y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi a'r ffioedd am wastraff DIY ar wefan y cyngor. 

"Mae'r newidiadau sydd ar y gweill i'r ffordd yr ydym yn defnyddio'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi o 1 Ebrill 2025 wedi cael eu hadrodd yn eang, ond mae rhywfaint o ddryswch ynghylch y trefniadau newydd yn dal i gylchredeg ar y cyfryngau cymdeithasol." Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet Powys Wyrddach. 

"Mae newid bob amser yn her i ddechrau arni ac rydym yn gwerthfawrogi bod rhai yn teimlo ychydig yn ddryslyd ynghylch sut y bydd y system archebu a'r ffioedd am wastraff DIY mewn canolfannau ailgylchu yn effeithio arnynt. 

"Y lle i wirio'r manylion diweddaraf am sut fydd y canolfannau ailgylchu yn rhedeg o fis nesaf yw gwefan y cyngor. Yma gallwch gyrchu'r holl ffeithiau, gan gynnwys set lawn o gwestiynau a ofynnir yn aml: Canolfannau Ailgylchu"

Bydd preswylwyr yn gallu archebu eu slot cyntaf ar gyfer ymweliadau ar ôl 1 Ebrill, o 25 Mawrth 2025. 

Dyma'r atebion i rai o'r camsyniadau mwyaf cyffredin: 


Mae'n ddiwrnod braf ac rwyf wedi penderfynu clirio, ond oherwydd y system archebu ni fyddaf yn gallu ymweld â'r ganolfan ailgylchu heddiw.

Ar gyfartaledd, bydd dros 170 o slotiau y gellir eu harchebu ym mhob canolfan ailgylchu ar gyfer pob diwrnod y maent ar agor. Er y gallwch archebu ymweliad hyd at saith diwrnod gwaith cyn eich ymweliad, mae'n debygol iawn y byddwch yn gallu archebu slot i ymweld â'ch canolfan ailgylchu ddewisol ar yr un diwrnod. Gellir gwneud hyn yn gyflym ac yn hawdd arlein neu dros y ffôn yn ystod oriau swyddfa.


Ni fydd slot 10 munud yn ddigon hir ar gyfer fy ymweliad â'r ganolfan ailgylchu.

Mae awdurdodau lleol eraill hefyd yn defnyddio slotiau amser 10 munud, ac mae eu profiad yn awgrymu y dylai hyn fod yn ddigon o amser i chi ailgylchu eich holl wastraff yn gywir. Bydd rhai pobl yn mynd i mewn ac allan mewn ychydig funudau, ac efallai y bydd eraill yn cymryd ychydig yn hirach a bydd hynny'n iawn - bydd staff yn gallu gwneud lwfansau i ddarparu ar gyfer hyn. Bydd hyd y slotiau amser yn cael eu hadolygu a'u haddasu os oes angen.


Pan fo systemau archebu wedi'u cyflwyno mewn mannau eraill, dydyn nhw byth yn gweithio.

I'r gwrthwyneb, mae'r mwyafrif helaeth o systemau archebu a gyflwynwyd mewn siroedd eraill yn gweithio'n dda. Er gwaethaf y newid yn y dull gweithredu yn Sir Amwythig, mae'r adborth a gasglwyd yn arolygon preswylwyr awdurdodau lleol eraill yn cadarnhau bod preswylwyr yn hapus iawn gyda'r system unwaith mae wedi setlo. Yn wir, mewn arolwg diweddar gan gyngor yng Ngogledd Cymru, roedd 81% o'r trigolion yn nodi bod eu system archebu newydd yn rhagorol, ac mae 83% o blaid ei chadw ar waith. 


Pam ydych chi'n ei gwneud hi'n anoddach i ni ailgylchu?

Mae newid bob amser yn cael ei weld fel her ar y dechrau, ond bydd yn dod yn ail natur yn fuan a bydd cofio archebu slot amser ymlaen llaw yn gwneud eich ymweliad â'r ganolfan ailgylchu gwastraff cartrefi yn fwy effeithlon. Byddwch yn treulio llai o amser yn ciwio, bydd yn llai anhrefnus ac yn fwy diogel ar y safle a bydd staff yn cael mwy o amser i'ch helpu i ailgylchu eich gwastraff yn gywir, os oes angen.


Os ydw i eisiau archebu fy ymweliad dros y ffôn, rwy'n siwr na fyddaf yn gallu cael ateb gan y ddesg gymorth, ac mae ar gau ar benwythnosau.

Mae archebu arlein yn ffordd llawer cyflymach o archebu eich ymweliad a bydd yn caniatáu mwy o hyblygrwydd i chi os oes angen i chi newid neu ganslo eich archeb. Dywed cynghorau eraill bod dros 98% o archebion yn cael eu gwneud arlein a byddem yn annog trigolion Powys i wneud yr un peth. Golyga hyn na fydd canolfan alwadau'r cyngor yn cael ei gorlwytho ac y bydd yn gallu ymdopi â'r rhai sydd wir angen archebu dros y ffôn.


Pam ddylwn i orfod talu i ddefnyddio'r canolfannau ailgylchu, onid dyna yw pwrpas fy nhreth gyngor?

Mae defnyddio'r canolfannau ailgylchu i ailgylchu eich gwastraff cartref (gwastraff a grëwyd wrth redeg eich cartref o ddydd i ddydd) yn dal i fod yn rhad ac am ddim. 

Caiff gwastraff DIY ei ddosbarthu fel gwastraff diwydiannol ac, o'r herwydd, nid yw delio â'r math hwn o wastraff yn dod o dan y dreth gyngor. Fodd bynnag, rydym yn deall, o ganlyniad i welliannau DIY bychain yn y cartref, y gall preswylwyr gynhyrchu'r math hwn o wastraff, ac felly byddwn yn parhau i'w dderbyn yn ein CAGC, gyda ffi fechan i wrthbwyso costau trin a phrosesu.  Ar hyn o bryd mae gwastraff DIY yn llai na thraean o'r hyn sy'n mynd drwy'r safleoedd ac mae llawer o hyn yn symiau mwy o bridd a rwbel. Nid yw'n deg disgwyl i holl drethdalwyr y cyngor roi cymhorthdal i breswylwyr sy'n cyflawni prosiectau mawr neu lle mae masnachwyr wedi gadael eu gwastraff gyda deiliaid tai.

Nid oes ffi am bob un math o wastraff DIY, a byddwn yn derbyn symiau bach o bridd a rwbel a phren am ddim (un bag i bob ymweliad). Ceir rhestr lawn o ddeunyddiau a ffioedd arlein. 


Mae cyflwyno ffioedd am wastraff DIY yn ddim byd ond ffordd i'r cyngor wneud mwy o arian.

Mae'r canolfannau ailgylchu yn costio swm sylweddol i'w rhedeg, gyda chost o dros £2.5 miliwn i'r cyngor bob blwyddyn. Mae'r costau'n cynnwys staff, prynu a chynnal a chadw sgipiau, cludo deunyddiau, cynnal a chadw'r safle, yn ogystal â chydymffurfio â'r holl reoliadau cyfreithiol, amgylcheddol ac iechyd a diogelwch angenrheidiol. Mae rhai deunyddiau a dderbynnir yn y safleoedd yn creu incwm ond maent yn y lleiafrif ac yn mynd tuag at wrthbwyso cost gyffredinol darparu'r gwasanaeth. Bydd y rhan fwyaf o'r deunyddiau yn costio i'w prosesu ar gyfer ailgylchu, er bod hyn wrth gwrs yn llawer gwell i'r amgylchedd ac fel arfer yn rhatach na gwaredu. 


Bydd y newidiadau hyn yn y canolfannau ailgylchu yn arwain at fwy o dipio anghyfreithlon.

Lle mae awdurdodau lleol eraill wedi cyflwyno systemau archebu a ffioedd am wastraff DIY mewn canolfannau ailgylchu, ni welwyd cydberthynas rhwng nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon yr adroddwyd amdanynt a gweithredu'r newidiadau. Mae astudiaethau annibynnol hefyd wedi awgrymu nad oes tystiolaeth i awgrymu y bydd tipio anghyfreithlon yn cynyddu.

Yn 2021 cynhaliodd WRAP astudiaeth ar y berthynas rhwng cyfraddau tipio anghyfreithlon a chodi ffioedd mewn canolfannau ailgylchu (https://www.wrap.ngo/resources/report/relationship-between-fly-tipping-rates-and-hwrc-charging). Ni chanfu'r ymchwil hon unrhyw dystiolaeth o gysylltiad rhwng tipio anghyfreithlon a chodi tâl am wastraff DIY mewn canolfannau ailgylchu. 

Yn 2023 cynhaliodd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) astudiaeth ar gysylltiadau posibl rhwng systemau archebu canolfannau ailgylchu ac achosion o dipio anghyfreithlon (https://www.researchgate.net/publication/367254616_HWRC_booking_systems_and_incidents_of_fly-tipping_-research_into_possible_links_Technical_Report_for_Defra) Ni chanfu arolygon a chyfweliadau a gynhaliwyd gydag awdurdodau lleol unrhyw dystiolaeth o gysylltiad rhwng systemau archebu a thipio anghyfreithlon. 

Mae'n bwysig cofio bod tipio yn anghyfreithlon, bydd troseddwyr yn cael dirwy a gallent dderbyn cofnod troseddol. Nid yw'n rhywbeth y mae trigolion yn gyffredinol yn troi ato. Credwn fod ein trigolion yn gyfrifol ac na fyddent yn dewis taflu gwastraff yn anghyfreithlon yn hytrach na rheoli eu gwastraff yn briodol. Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd sy'n digwydd boed trefniadau rheoli gwastraff newydd yn eu lle ai peidio.


Mae'r ffeithiau llawn, mwy o wybodaeth ac atebion i gwestiynau eraill am y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi ar gael arlein: Canolfannau Ailgylchu
 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu