Toglo gwelededd dewislen symudol

Gofalwyr Ifanc

Mae Gofalwyr Ifanc yn blant a phobl ifanc o dan 25 oed sydd â chyfrifoldebau gofalu am rywun sydd â salwch corfforol neu feddyliol, anabledd corfforol neu ddysgu neu broblem cyffuriau neu alcohol.

Mae cefnogaeth arbennig i ofalwyr ifanc gan ofalwyr ifanc Powys.

Mae gofalwyr ifanc o bob rhan o Bowys wedi cynhyrchu animeiddiad byr. Mae'r ffilm yn amlygu'r canfyddiadau sydd gan rai pobl o berson ifanc heb wybod beth yw eu heriau o ddydd i ddydd o jyglo bywyd ysgol a chartref wrth ofalu am aelod o'r teulu.

Byddai'n rhaid i ofalwr ifanc gyflawni nifer o dasgau, gan gynnwys:

  • Gofal cyffredinol (fel rhoi meddyginiaeth, newid gorchuddion, helpu gyda symudedd
  • Tasgau domestig (fel coginio, glanhau, golchi, smwddio, siopa)
  • Cefnogaeth emosiynol (fel gwrando ar bobl a'u cefnogi)
  • Gofal personol (fel gwisgo, ymolchi a helpu gyda gofynion toiled)
  • Gofal plant (fel helpu gyda brodyr a chwiorydd iau)
  • Gofal arall (fel helpu gyda thasgau cartref a gweinyddol eraill, talu biliau, mynd gyda'r sawl y gofalir amdano at y meddyg neu'r ysbyty)

Beth i'w wneud os ydych yn ofalwr ifanc

Os ydych chi'n meddwl y gallech chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, fod yn ofalwr ifanc, mae'n bwysig eich bod chi'n dweud wrthym ni am eich sefyllfa fel y gallwch chi - a'r person rydych chi'n gofalu amdano - gael y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch chi.

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor am Ofalwyr Ifanc neu i wneud atgyfeiriad Gofalwyr Ifanc gallwch gysylltu â Credu yn uniongyrchol. Gallai eich rhiant a/neu ysgol eich cefnogi wrth eich cyfeirio at Credu i ddod yn ofalwr ifanc.

Pa fath o help fydda' i'n ei gael?

Mae gofalwyr ifanc yn aml yn cymryd cyfrifoldebau oedolion. Mae hyn yn golygu eu bod yn aml yn colli allan ar y pethau y gallai plant eraill eu cymryd yn ganiataol, fel cyfleoedd i ddysgu, chwarae a chael hwyl.

Rydym yn gweithio'n agos gyda Credu Cares ac asiantaethau eraill i'ch helpu i fwynhau eich plentyndod drwy roi:

  • Cefnogaeth a chyngor emosiynol
  • Cefnogaeth i gael help gartref
  • Cyngor ar gymryd seibiant o ofalu
  • Cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog
  • Cyfle i gwrdd â phobl ifanc eraill a rhannu profiadau
  • Help gyda'ch pryderon neu anawsterau
  • Help i gael mynediad at addysg

Cysylltwch â Credu i gael rhagor o wybodaeth a chymorth.

Credu - 01597 823800

https://www.carers.cymru/

Ebost:carers@credu.cymru