Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Grŵp Llywio'r Gofalwyr

Sefydlwyd Grŵp Llywio'r Gofalwyr i roi cyfle i ofalwyr a defnyddwyr gwasanaeth hysbysu ac ychwanegu at waith comisiynwyr a darparwyr gwasanaethau.

Mae'r grŵp yn cymryd rhan mewn trafodaethau lle caiff eu safbwyntiau a'u profiadau eu parchu a'u gwerthfawrogi.

Mae'r grŵp yn bwriadu cynyddu nifer yr aelodau sy'n ofalwyr. Cysylltwch â Credu os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am y Grŵp Llywio:-

E-bost: info@credu.cymru

Ffôn: 01597 823800.

Cyfeiriad: Marlow, South Crescent, Llandrindod, LD1 5DH

Ei brif amcanion yw:

  • ystyried, gwneud sylwadau a gwneud argymhellion am y gwasanaethau presennol a chynlluniau comisiynu ar gyfer y dyfodol.
  • cynghori timau Gofal Cymdeithasol y cyngor a'u partneriaid ar faterion cyfoes ac unrhyw faterion eraill sy'n peri pryder
  • cefnogi gweithgarwch ymgynghori neu ymgysylltu penodol ynghylch unrhyw gynigion, cynlluniau, strategaethau ac ati perthnasol.

Bydd yr amcanion hyn yn:

  • Helpu comisiynwyr i ddeall sut i wneud rhywbeth newydd neu wahanol.
  • Codi pwyntiau efallai na fyddai'r comisiynwyr wedi eu hystyried.
  • Helpu comisiynwyr i benderfynu pa opsiwn i'w ddewis.
  • Galluogi defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr i leisio unrhyw bryderon am y gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd.
  • Cymryd rhan a bod yn rhan o atebion y gwasanaeth.
  • Gwneud gwahaniaeth!

Mae Grŵp Llywio'r Gofalwyr yn cyfarfod bob tri mis ac yn cael ei gadeirio gan ofalwr.

Gallai pob gofalwr gyfrannu naill ai trwy fynychu'r cyfarfodydd neu fwydo barn i mewn trwy ddulliau eraill (er enghraifft e-bost, ffôn, cynhadledd fideo, Skype).

Mae'n bosibl y bydd gennych hawl i hawlio costau gofal amgen a chostau teithio.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn aelod o'r fforwm neu os hoffech ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at pccu@powys.gov.uk